Skip to main content

*4 V CERDDOR.—Chwefror laf, 1898. EIN CERDDORION (E.HIF 2 5.) Y diweddar GRIFFITH R. JONES (Caradog). Gan M. 0. JONES, Tbehebbert. GANWYD Caradog yn y Rose and Crown, Trecynon, Aberdâr, Rhagfyr 21ain, 1834. Bu ei dad arn flyn- yddau yn mechanic yn ngwaith haiarn y Llwydcoed, Aber- dâr, a phrentisiwyd y mah yntau yn ôf; galwedigaeth a ddilynodd am gryn ysbaid. Yr oedd ei dad, John Jones, yn fab i'r Parch. John Jones, Ficer Llanishen, Llysfaen a Llaneden, ger Caerdydd ; a'i fam yn fer, h i David Hughes, Gogleddwr o ddechreuad, a phregethwr cynorth- wyol gyda'r Bedyddwyr yn Mhontneddfychan, Glynnedd. Yr oedd y bachgen yn hoff o gerddoriaeth ,pan yn blen- tyn, ac fel y tyfai cynyddai ei hoffder. Dysgodd chwareu'r grythen pan yn ieuanc, a thrwy ymarferíad cyson, daeth yn chwareuydd da. Yroedd ei írodyr hefyd, John a David, yn grythenwyr medrus. Yr hanes cyntaf sydd gen- ym am dano yn arwain côr yw yn 1853, yn Eisteddfod Aberafon, pryd y bu yn fudd- ugol ar " Hallelujah to the Father" (Beethoven). Nid oedd y pryd hwnw ond 19eg oed, ac ni rifai ei gôr ond dau-ar-bymtheg, ac yn eu plith yr oedd mab Alaw üuch — y Barnwr Gwilym Wülianis yn awr. " Côr Car- adog " oedd yr enw yrwyd i raewn, a byth oddiar hyny adnabyddid ef fel Caradog. Yn 1858 penodwyd ef yn arweinydd Côr Undebol Aber- dâr, ac mewn cysylltiad â'r côr hwn y cyrhaeddodd Car- adog enwogrwydd gyntaf fel arweinydd. Dyma restr o'u prif fuddugoliaethau : —1858, Aberdar, " The Heavens are telling"; 1859, A.berdâr, " Teyrnasoedd y ddaear"; 1860, Aberdâr, " Rise up, arise"; 1861, Aberdâr, "Y ddaear- gryn "; 1861, Eisteddfod Genhedlaethol Aberdâr, " O hail us, ye free " (Verdi) : 1861, Pontypridd, " Thanks be to God '"; Castellnedd, " When winds breathe soft"; Aber- tawe, "O great is the depth"; Eto, " Then shall your ligbt"; 1868, Llanelli, " Be not afraid," yn nghyd ag am- ryw leoedd eraill. Dylid cofio mai yn amser babandod cystadleuaeth gôrawl oedd hyn mewn cymhariaeth, ac nad oedd y manteision i'w cymharu â rhai y dyddiau hyn. Yn y flwyddyn 1870 syriiudodd Caradog i fyw i Dre- orci, Cwm Rhondda; ac yn fuan wedi ei ymsefydliad yno, ôurfiwyd côr o feibion dan ei arweinyddiaeth, y rhai a gynaliasant amryw gyDgherddau llewyrchus, tra y parha- odd y côr yn nghyd. Yn nechreu y üwyddyn 1872 cyfarfyddodd nifer o gerdd- orion yn Aberdâr, pryd y daeth y pwngc o ymgystadlu yn y Palas Grisial dan sylw, a pbenderfynwyd galw pwyligor ar y mater i gyfarfod yn y dref hono.* Nid oedd Caradog ei hunan yn teimlo yn frwd dros fyned, gan nad oedd y wobr a gynygid—yr anrhydedd o ddal y Challenge Cup am flwyddyn—yn werth y draul a'r llafur. Modd bynag, penderfynwyd fod côr i gael ei ffurfio, gyda Charadog yn arweinydd cyffredinol. Teimlid, er fod amryw o arwein- wyr galluog yn bresenol yn y pwyllgor, nad oedd yno yr un a roddai foddlonrwydd mor gyffredinol ag ef; ac os nad ydym yn camgymeryd, Eos Morlais a gynygiodd Caradog yn arweinydd. Yr oedd wyth o ddarnaui'w dysgu; yn cynwys tair cydgan ddwbl (dwy o honynt ar eiriau Lladinaidd), un i chwech llais, tair eraill a Madrigal. Tasg go lew, mewn amser raor fyr—rhyw dri mis—a'r rhan fwyaf o'r aelodau yn weithwyr. Modd bynag, ymaflodd Caradog yn ei waith o ddifrif. Talodd ymweliadau â'r gwahanol adranau, a chynaliwyd rehearsals cyffredinol yn Abertawe, Merthyr, ac Aberdâr, fel erbyn diwedd Mehefin yr oedd y darnau wedi cael eu dysgu yn weddol dda. Cynhaliwyd y rehear- sal ddiweddaf yn Aberdâr, dydd Llun, Gorphenaf laf. Dydd Mercher cymerodd y gystadleuaeth le, ond ni ddaeth yno wrthwynebydd. Ni chafodd y côr ond ychydig 0 gefnogaeth arianol i'w cyn- orthwyo i dalu eu treuliau y tro hwn. Mis Medi canlynol, dech- reuodd yr adranau ymarfer ar gyfer cyfres o gyngherdd- au a fwriedid eu cynal, er cynorthwyo y côr í fyned i Lundain y flwyddyn ganlyn- 01 eto. Arddangosid y cwpan aur yn y cyngherddau hyn. Penderfynwyd fod yn rhaid codi safon yr arholiad o ael- odaeth y tru hwn, ac fod yn rhaid i bawb gael eu arholi. Y canlyniad fu i lawer o'r hen aelodau fethu, ac fod y côr yn llawer iawn gwell o ran ei gyfansoddiad. Buwyd yn llawer mwy diwyd yn dysgu y darnau (chwech mewn nifer) ac yn gwrteithio y lleisiau hefyd, ac yr oedd yma un cyfnewidiad pwysig yn nghyfansoddiad y côr—merched oedd y rhan fwyaf o lawer o'r Alto,—nid oedd ond ychydig fechgyn yn eu plith. Gweithiodd Caradog yn egn'iol a diorphwys er di- wyllio y côr drwy ymweliadau mynych â'r adranau, a thêg yw dweyd fod yr arweinwyr lleol ar eu goreu. Gwnaeth esiampl o un adran, lle y cafodd fod llawer o'r aelodau yn anffyddlawn, drwy eu diaelodi bron i gyd yn ddiseremoni. Cynhaliwyd rehearsals cyffredinol yn Aberdâr, Aber- tawe, Merthyr, Caerdydd, Casnewydd, Caerphili, ac yn Mryste, wrth fyned i Lundain. Cymerodd y gystadleuaeth le ar y lOfed o Gorphenaf; ac er i gôr o Lundain dan arweiniad y diweddar Mr. Joseph Proudman ymgystadlu, y Côr Cymreig ddyfarnwyd yn oreu (rhif y côr ar y llwy- fan oedd 456). Cawsant yr anrhydedd yn olynol i hyny, o ganu o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn Marl- * I fod yn fanwl gywir, llythyrau a ysgrifenwyd gan ddau neu dri o'n prif gerddorion i'r Gwladgarwr, yn awgrymu ffurfiad côr o'r fath, oedd y symbylíad cyntaf.—Qoí.