Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

1 CERDDOR.— Ionawr laf, 1898 $ tt Jtt e m o t i a m C A R A D 0 G Y mae genym y gorchwyl galarus 0 groniclo marwolaeth y cerddor a'r arweinydd clodfawr, ein hen gyfaill Caradog. Bu yn dihoeni am fisoedd, a bu farw dydd Sul, Rhagfyr 5ed, yn ei breswylfod yn Mhontypridd. Claddwyd ef yn Aberdâr, ei hen gartref, ddydd Iau, Rhagfyr 9fed. Ar- faethwn roddi manylion pellach yn nghyda darlun o'r cerddor ymadawedig, yn ein rhifyn nesaf. E. Mr. JOHN DAVLES, A.C., Dowlais. Y mae angeu wedi bod yn brysur yn tori y rhengoedd cerddorol tua diwedd y flwyddyn sydd newydd ein gadael; gyda bod newydd am un yn d'od, dyma un arall, a'r ieu- angaf, yn mherson Mr. John Davies, pan nad oedd ond 36ain oed. Y tro cyntaf y daethom i gyfarfyddiad âg ef a'i frawd, Mr. Dan Davies, A.C., oedd pan yn eu arholi yn Dowlais am yr A.C., a chan eu bod yn llafurio dan y fath anfanteision, yr oedd yn syndod iddynt fyned drwy eu gwaith mor foddhaol. Yr oedd yno rai cantorion eiddigus (fel sydd ysywaeth bron yn mhob man), yn barod i amheu ein bod wedi eu ffafrio yn yr arholiad; ond dangosasant yn fuan eu bod yn deilwng o'r dystysgrif, yn ol y dull yr arweinient y côrau fu dan eu gofal. Yr ydym yn credu fod Mr. John Davies wedi bod yn fuddugol dair gwaith 0 dan ein beirniadaeth mewn Eisteddfodau yn Nghastellnedd, Penybontarogwy, a lle arall. Ystyriem ef yn arweinydd diogel iawn, yn fanwl, cywir, a medrai dafiu llawer o ysbrydiaeth i'r canu, heb or-wneyd. Bu 0 wasanaeth a help mawr i'w frawd mewn aml i frwydr, ac yn gynghorydd diogel yn nglŷn â'r côrau, yn gystal ag yn ei fasnach. Cydymdeimlwn yn fawr a'i weddw a'r plant, hefyd a'i frawd yn eu colled ar ol un mor garedig, siriol, a ffyddlon; a'n dymuniad yw ar i lawer tebyg iddo godi yma a thraw fel arweinyddion. Y gys- tadleuaeth gyntaf iddo oedd yn y Porth, 1888. Bu yn cyd- ganu rhai troion gyda Mr. Dan Price. Y tro olaf y darfu i ni ei weled fel ag i siarad âg ef, oedd yn nghwmni Mr. Bowen, ysgrifenydd côr Merthyr, adeg Eisteddfod Aber- honddu, mis Mai diweddaf. Edrychai yn iach a chalonog y pryd hyny, ac yn lled rydd oddiwrth ei hen elyn yr Asthma. Chwith genym na chawn weled ei wyneb byth mwy, a bydded nodded Barnwr y gweddwon dros ei wraig a'i blant. Daeth torf fawr o gantorion yn nghyd, a chan- wyd amryw dônau ar lán y bedd, dan arweiniad Mr. Stan- ford Jones. Yr oedd amryw arweinwyr côrau yn Sir For- ganwg wedi d'od i dalu y gymwynasolaf i'w goffadwriaeth. D. J. Mb. C. H. BANISTER. Y mae y cerddor galluog hwn hefyd wedi ein gadael yn ddiweddar, ac er ei fod, fel y credwn, yn anadnabyddus yn bersonol yn Nghymru, teilynga air o sylw o herwydd ei wasanaeth i gerddoriaeth. Ganed ef yn Llundain yn 1831. Yr oedd ei dad yn chwareuwr adnabyddus ar y Violoncello, ac yn gerddor 0 allu. 0 dano ef y dechreuodd y mab ei astudiaeth, cynmynedi'rR.A.M., lle yr enillodd ys- goloriaeth y Brenin yn 1846,athrachefn yn 1848. Gwnaedef yn Broffeswr Cynorthwyol yn yr Academi yn 1851, ac yn Broffeswr Cynghanedd a Chyfansoddiant yn 1853. Pan yn fachgenyn bu yn canu yn gyhoeddus gyda Madame Dolby (Miss Dolby y pryd hwnw) ao eraill, a chymerodd ran un- waithmewnperfformiadpreifat 0 " Walpurgis Night," Men- delssohn ei hun yn cyfeilio ar y berdoneg. Yr oedd hefyd yn Broffeswr yn Ysgol Gerddorol y Guild Hall, a bu yn arholydd am TJrddau Cerddorol yn Mhrifysgol Caergrawnt. Yr oedd i feirniadu yn Ngŵyl Gerddorol Stratford, swydd oedd wedi ei llanw yn flaenorol. Yn ddiweddar yr oedd wedi cyfyngu ei hun at addysgiaeth, a llenyddiaeth gerddorol. Y mae ei Lawlyfr ar Gerddoriaeth—" Music " — yn un o'r rhai cyflawnaf, egluraf, a mwyaf gwasanaeth- gar yn yr iaith Saesneg. Efe hefyd oedd awdwr " Cofiant Dr. Macfarren." Bu farw yn dra sydyn Tach. 20, pan ar ganol rhoddi gwers—gwers ddi-dâl—i efrydydd yn mha un y cymerai ddyddordeb. E. Hyn a'r Z,lall. Yn Blaenanerch, Rhagfyr lOfed, yn nglŷn â'r Gymanfa Ganu, cyflwynwyd anerchiad i Mr. J. Thomas, Llanwrtyd, fel arwydd 0 barch dosbarth Aberteifi tuag ato am arwain y Gymanfa Ganu am 25ain o flynyddau, a hyny yn ei ardal enedigol. Cyflwynwyd yr Anerchiad dros bwyllgor y Gymanfa i Mr. Thomas, gan Mr. Stephens, Llechryd (hen gyfaill i'w dad). Effeithiodd hyn yn naturiol ar deimladau y cerddor, a chafwyd canu hynod 0 gynes yn enwedig ar rai o'r tônau. Mr. Ceredig Evans, Aberteifi, yw yr ysgrifenydd, ac y mae yntau wedi bod yn ffyddlon iawn drwy y blynyddau fel gŵr gweithgar. Coedpoeth.—CyflwynoddpoblieuaingcCapel Salem (A), drwy law y Parch. T. E. Thomas, anrheg o amryw gyf- rolau gwerthfawr i Mr. R. T. Hughes, prydnawn Sabboth, Rhagfyr 6ed. Yn mysg y llyfrau yr oedd " Naumann's History of Music." Anrhegwyd ef am ei ffyddlondeb a'i ymroddiad gyda'r bobl ieuaingc, yn Sabbothol ac yn wythnosol. Y mae Mr. Owen Price fPencerdd MenaiJ, Organydd ac Arweinydd côr Eglwys St. Mair, Bangor, wedi ei ben- odi i'r cyffelyb swydd yn Eglwys Blwyfol Loutb, swydd Lincoln; ac y mae Mr. Bennett Jones, cyn îs-organydd Eglwys Gadeiriol Bangor, wedi ei benodi fel olynydd i Mr. Price yn St. Mair. Cynhaliwyd cyngherdd Tachwedd 30ain, yn Mheny- cae, gan Mr. J. 0. Jones, Wrexham, a'i ddisgyblion. Yr oedd y program wedi ei^wneyd i fyny o ddarnau i'r ber- doneg a chaneuon. Profodd Master Arthur Jones ei fod yn berchenog ar dalent neillduol gyda'r berdoneg. Deallwn iddo dd'od allan yn 3ydd y dydd o'r blaen yn arholiad yr I.S.M., er nad yw ond 8 mlwydd oed. Eisteddfodau, Cyngherddau, Cymanfaoedd Canu, &e. [*** Dymunwn ar ein gohebwyr fod mor garedig ag anfon eu hanesion yn union ar ol dyddiad y cyfarfodydd, ac mor fyr ag sydd bosibl, gan roddi enwau y darnau a'u -Gol.] Llundain.—Cynhaliwyd cylchwyl Eglwys Falniouth Road, yn Neuadd Drefol, Shoreditch, nos Iau, Tachwedd 25ain. Dyfarnwyd côr Jewin yn deilwng ar " Awn, a meddianwn " (D. Jenkins), a chôr meibion South London ar " Where is he?" (Beethoven). Ni chaed cystadleuaeth ar y naill na'r llall, ac efallai yr agorir Uygaid hyrwydd- wyr y cyfarfodydd hyn i'r ffaith, digon eglur i eraill, mai anmhosibl i'r cantorion barotoi gogyfer â'r holl fân gystadl-