Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ fîl RHIF. XVII. TACHWEDD, 1905. CYF. II HYN A'R LLALL. Ni raid i neb blygu pen mewn cywilydd oblegid Llyfr Newydd cynnwys neu wisg llyfr cyntaf gwasg Clynderwen. o A chyfaddef y gwir, teimlwn ni, breswylwyr y Swyddfa Newydd. pentref dwy sirol a chyfeillion yr awdwr duedd i ymunioni a chodi ein pennau yn uwch nag arfer. Marwnad i gychwynydd y misolyn hwn ydyw, wedi ei chyfansoddi a'i chyhoeddi gan y Parch T R Williams, Egremont, Lerpwl, brodor o'r ardal lle treuliodd gwrthddrych ei gân flynyddoedd olaf ei oes lafurus. ac y bu farw ynghanol ei waith a'i ddyddiau. Codwyd ef i bregethu yni Mlaenconin yn amser y Parch Joseph Jones, ac ymsefydlasai yn y weinidogaeth Seisnig yn Lloegr rai blynyddau cyn dyfodiad Mr Evans i'r gymydogaeth " lle y cura calon Dyfed yn nhangnefedd bryn a phant." Ond yn ystod ei ymweliadau blynyddol â'r hen gartref cafodd gyfieusterau i adnabod yr hwn ddaethai eisoes i gysylltiad âg ef yng Ngogledd Cymru. A theimlir yn reddfol wrth ddarllen y llyfryn nad un wedi ymgydnabyddu â ffeithiau hanes ac helyntion bywyd yr ymadawedig i ddibennion cystadlu ac ennill gwobr yw'r bardd. Mae nôd Cain ar dalcen y cyfryw bob amser. Teimlir hefyd fod yr hwn sydd yn canu mewn cydymdeimlad âg amcannion gwrth- ddrych ei gân. Nis medr neb ffugio cydymdeimlad mewn barddon- iaeth heb gael ei ddal, ac nid y w'r awen yn cynorthwyo rhagrithwyr. Traetha oes David Evans o'i gryd i'w fedd. Cyfeiria at rym meddwl a phurdeb bywyd ei hynafiaid a dengys nad gwyrth fod teithi ysbryd- ol y tadau yn ail-ymgnawdoli yn y plant. Erys gyda'i ffyddlondeb i argyhoeddiad, a dwed am lwyredd ei ymgysegriad i wasanaeth dyn a Duw. A chan nad beth yw mân-frychau'r farwnad gellir dweyd gyda sicrwydd fod ysbryd y peth byw ynddi. A dyna sydd eisieu. Nid yw rhydr ac odl, wedi'r cyfan, ond efydd yn seinio neu symbal yn tincian. Yn y rhifyn hwn dechreuir cyfres o ysgrifau ar Gymeriadau Nodedig y Beibl, a dymunir ar rieni, athrawon, ac ereill alw sylw y plant atynt. Byddant yn syml, yn ddarllenadwy, yn ddyddorol, ac yn sicr o ada«l ar^raftadau da ar feddwl pofe plentyn mtádylgar. Dynion Enwog Y BED3L.