Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XVI. HYDREF, 1905. CYF. II HYN A'R LLALL. RHESWM nad yw enw y Golygydd ar yr amlen y tro hwn fel arfer yw fod Mr Evans wedi ymddiswyddo, a neb wedi ei ddewis i lanw ei le. Hyd y byddo Golygydd newydd wedi ei benodi, a fydd ein gohebwyr cystal ag anfon eu cynyrchion i ofal yr ysgrifennydd : W. Gwilamus WTilliams, Clynder- wen, R.S.O. Gwyddom y gwna ein cyfeillion llengar ein cynorth- wyo, oblegid nid y Piwritan Newydd i farw o herwydd ymddiswydd- iad Golygydd. *** *** Dymunem mewn modd neillduol alw sylw at ysgrif werthfawr a galluog Mr A J George, B A., ar " Weddi a Gweddio," a ymddengys yn y rhifyn hwn. Darllener hi yn bwyllog a myfyrgar. Cymdeithas newydd eto ! Cychwynwyd hi ychydig wythnosau yn ol yn ardal Clynderwen a Llandysilio. Ei hamcan yw ceisio sym- ud ysmotyn du o gymeriad Dyfed grefyddol, ac os pery'r aelodau yn effro, a brwdfrydig, a di-droi-yn ol bydd gwedd arall ar dymor nesaf arwerthiadau Dyfed lân, swydd y gân—a'r dablen. * * * *. Dyma'r ymrwymiad wneir wrth ymuno : " Yr wyf fi yn addaw na wnaf brynnu dim, na chynnyg ar ddim mewn Arwerthiad lle rhoddir Diodydd neu Wirodydd Meddwol, ac yr wyf yn ymrwymo y gwnaf yr hyn a allaf er rhoddi atalfa ar arferiad sydd mor groes i egwyddorion Gonestrwydd a Christionogaeth." *** *** Traddododd y Parch J Cradoc Owen, A.T.S., Llandysilio, bre- geth rymus ar y pwnc hwn yng Nghyfarfod Chwarterol ei Enwad, a gynhaliwyd ychydig wythnosau yn ol. Ymddengys rhan o honi yn y Tystt ac y mae yn werth ei darllen.