Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XV. MEDI, 1905. CYF. II HYN A'R LLALL. |MHLITH y gwallau a chwarddent am ein penau yn y rhifyn diweddaf. gwelsom un yn hanes y Parch D. Williams, Salem. Dyweddir ei fod yn Anwylo Athrofa Hwlffordd tra y bü yno. Nid dyna eiriau yr ysgrifenydd, na'i feddwl, ond fod yr Athrofa, tra y bu yn Athrofa, Hwlffordd, yn anwyl ganddo Gwyr pawb iddi gael e'i symud oddi yno i Aberystwyth, a llyncwyd hi gan Caerdydd wedi hynny. * * Gwelsom yn diweddar fod sôn ar led fod cwrdd chwarter Dosbarth Uchaf Sir Gaerfyrddin wedi níarw. Drwg gennym ddeall hyn. Ni chyrhaeddadd y son e'i fod yn wael glustiau rhan isaf y sir. Ond dyna fe, efallai mai " heart disease "• oedd e'i dolur. Beth bynnag, gobeithio nad oedd e'i ddolur yn heintus, oni de y mae perigl iddo i ledu i'r rhan arall o'r sir, ac hefyd i siroedd eraill. *** *** Dywedir fod y " darfodedigaeth " (consumption) yn heintus. Y mae dynion ar e'i goreu yn ceisio ei atal; a dywedir e'u bod wedi llwyddo yn y blynyddau diweddaf i'w dynnu i lawr 25^ « per cent.," drwy awyr iach penan y mynyddoedd. Rhyfedd fod sôn am gyrddau Sion yn marw ynghanol nerthoedd pedwar gwynt y diwygiad mawr 1905. Pa le y mae y cysondeb rhwrig yr hwyliau mawr a'r difater- wch crefyddol ? Y mae fel y dywedir am y diffig ar yr ha;4|ond eleni) " Anweledig yma." J { * « Y mae cytundeb heddwch wedi ei arwyddo rhwng Japan a Russia erbyn hyn. Yn ol barn llawer y mae lle i ofni nad yw Japan yn foddlon i'r cytundeb, am nad yw wedi cael yr iawn a geisiai.