Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ 9ÎWlîf M llWTll, RHIF. XII. MEHEFIN, 1905. CYF. II Stori'r Cyhoeddwyr Newydd. (gan w. g. w.) Methwyd a chwblhau y trefniadau newyddion ynglyn a dwyn allan y cy- hoeddiad hwn mewn pryd i wneyd yn hysbys y tro diweddaf fod tÿmor cyfrifol- deb yr Argraffydd fel cyhoeddwr wedi darfod gyda rhifyn Mawrth, ac fod rhai ereill wedi cymeryd ei Ìe. A phan gwblhawyd y drafodaeth gyd-fynedol a throsglwyddiad ein misolyn yr oedd Mehefin yn chwim gerdded tuagatom, ac wedi dod mor agos fel y barnodd y Pwyllgor ymgynulledig na fyddai anfon cylch-lythyrau at yr eglwysi ond afradloni ein hamsera'nda, gan y gellid dweyd yr un genadwri o'r fan hon ychydig ddyddiau yn ddiweddarach i gynulleidfa fwy, a chyda mwy o arddeliad feallai! XXX Teimlai rhai o honom er's tro fod y gwaith o gario y cyhoeddiad hwn ymlaen wedi ei ymddiried yn rhannol i ni. Cryched y darllennydd mwyn ei dalcen, a dweded yn ei galon ac ar gyhoedd os myn, nad gostyngeiddrwydd yw nodwedd amlycaf y cyhoeddwyr newydd, rhyfedd hyn. .Ond cyn gadael geiriau mwy minniog ddianc dros ei wefusau, gwybydded na ruthrasom yn ddiystyr. fel march i ryfel, ac na charlamasom tua'r swyddfa fel y carlama dyn ar golli y tren i'r orsaf. . • XXX Naddo! Cerddasom yn hamddenol ddigon, mesurasom led a hyd y ffordd droion, ac arosasom fwy nag unwaith i led-orwedd ar fin y ffordd gan obeithio gweld rhywrai ereill yn brysio heibio. A bu chwant arnom gymeryd llong i Tarsis yn hytrach na chyfeirio ein camrau tua Ninefeh. XXX Pan welsom bawb oll yn sefyll yn yr unman yn Ilonydd fel delwau, heb syf- lyd llaw na throed, yn Weinidogion, yn llenorion, ac yn wyr ariannog, yna pen- derfynasom yn ddiymdroi gymeryd at yr anturiaeth doed a ddelo. x >5 x Pa fodd y try pethau allan nis gwyr neb. Y mae gennym amcan go dda wrth gwrs, na fyddwn yn fdiwnyddion ar ben y chwarter cyntaf, a dweyd y lleiaf. A chredwn yn ddiysgog y gellir gyda chydweithrediad ac ymdrech wneyd i'r geiniogwerth hon o lenyddiaeth dalu'r ffordd. Cawn weld. xxx Atoch chwi Weinidogion yr ydym yn apelio, yn y lle cyntaf. Y mae llawer o honoch yn llenorion mwy proiiadol na neb sydd yn awr ynglyn a'r P. N. Byddẃn yn ddiolchgar am gyngor, am gyfarwyddyd, am awgrym, a byddwn fwy diolchgar byth am ambell ysgrif ddarllenadwy, ar hen gymeriadau cryfion y dyddiau gynt, ar enwogion byw Dyfed, ac ar ddigwyddiadau'r dydd. „ XXX Oes rhywun fedr roddi bywyd yn esgyrn sychion gwleidyddiaeth fel y gwna H. W. Massingham yn y " London Daily News," fel yr arferai Lladmerydd wneyd yn y " Tyst a'r Dydd," ac fel y gwneir ẃeithiau yn " Seren Cymru " ? Mae'n bryd deffro yn y cyfeiriad hyn. Dylai gweithwyr a chrefftwyr, ac amaethwyr, a masnachwyr ein hardaloedd gwledigfod yn fwý "hyddysg raewn matçriou gwleidyddol nag ydynt.