Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. VIII. CHWEFROIi, 1905. CYF. II HYN A'R LLALL. Nid ydyw pawb yn cydfyn'd a'r cyrddau a gynhelir yn eg-lwysi y cylch yma. Eu rheswm ydyw y dylem weled mwy o ffrwyth bywyd crefyddol yn ein bywydau, cyn ein bod yn ymgynyg at gyrddau o'r fath. Ond a ydyw yn rheswm gweled ffrwyth cyn hau ? Gallem dybied mai awydd am ' ddwyn ffrwyth i sancteiddrwydd,' sydd yn cymhell cymaint o bobl i ddyfod at eu gilydd i dy gweddi, drwy gymaint o anfanteision. Credwn hefyd fod y medi yn dechreu. Nid fpeth cyffredin ydyw gweled brodyr a chwiorydd yn dyfod i weddio íyn gyhoeddus, na chlywodd neb ond Duw ei hun air o'n genau erioed. Peidiwn ofni dylanwadau yspryd Duw, rhag iddi lyned yn syched am danynt, a methu eu cael ! Gallem feddwl fod y rhai gadwant o'r cyrddau mewn rhai lleoedd mewn perygl o hyn.—(Amos viii, 2.) XXX Ofnwn yn fawr y dyddiau hyn fod y gelyn yn dechreu chwilio am le i ddyfod i mewn fel afon i ganol tan y diwygiad. Ond os yd- ■yw yn dan Duw, y mae yn sicr o losgi ci draed. A gwna hyny o b^sibl iddo fod yn fwy gocheìgar i ymosod lle nas gwyr. Y rheswm o'r ofn hwn ydyw, rhyw swn ameu grasusau diwyg- wyr, yn y Westem Mail—y papur ag sydd wedi cario îlawn ei golofnau o hanes y diwygiad, heb swn 'ameu dim ' Tipyn yn gynar ydyw i gyhoeddi pethau fel hyn. Ond hyn a wyddom.gan nad beth ydyw Mr Evan Roberts, fod mwyafrif mawr- aelodau crefyddol Cymru wedi deffro at eu dyletswyddau. ac wedi teimlo y gwirionedd *'• Nesau at Dduw sydd dda i mi" XXX Y mae amryw wallau wedi myned i mewn i'r Piwritan diweddaf. Gobeithio y daw yn fwy " piwr." Y mae llawer o bethau heb ym- ddangos yn berwydd prinder gofod. Darlun o Mr J Evans, G.T.S.C., Abergwaun, yng nghyd a bywgraffiad o hono, yn y nesaf.