Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥___________________ RHIF. XLII. RHAGFYR 15, 1907 CYF. IV Kyx\ o'r Clall. Y mae Llyfr dyddorol Mrs William"., Cefnydre, Abergwaen, yn y Wasgyà disgwylir ef allan tua'r Nadolig-. " Detholion o ddywed- iadau Pwlpud y diweddar Barch W Jones, Abergwaen " ydyw. Yn ei ddechreu ceir anerchiad byw yr awdures, yna Rhagarweiniad byr yn cynnwys darluniad o'r enwog- W Jones fel preg-ethwr gan Arian- glawdd, wedi hyn ceir rhaglith rhagorol gan y Parch John Thomas, M.A., Lerpwl, ac yn ddiweddaf ceir llythyr o gymeradwyaeth uchel iawn i'r gwaith gan y Gwir Anrhydeddus D Lloyd George, Ysw., A.S., Llywydd y Bwrdd Masnach. Trefnir y gwahanoi faterion yr ymdrinir a hwy yn ol llythyrennau y wyddor (Alphabelical ordet) o'r A i'r Z. " Adda" yw y gair cyntaf, a " Zel" yw y gair diweddaf. Dylai hwn werthu wrth y miloedd. Cynhelir cyfarfodydd cyhoeddus pwysig yn Hwlffordd, Ionawr 2^ain, 1908, am 2 a 7 o'r g-loch mewn perthynas i Fesur y Twydded- au. Disgwylir Mr Owen Phillips, A.S., Mr T H Sloan, A.S., ac ereill i siarad. Dymunir ar bob eglwys yn Sir Benfro i anfon tri o leiaf i'r gynhadledd i'w chynrychioli. Ceir gwybodaeth helaethach mewn perthynas i'r mater y mis nesaf. Fel hyn yr ysgrifenna'r Parchedigion Gwili a Herbert- Morgan : w Deallwn nad yw yn debyg- y cyhoeddir esboniad ar y gwersi dan nawdd Undeb yr Ysgol Sul eleni. Wedi peth gohebu ac ymddiddan daethom i'r penderfyniad y gellid rhywbeth i g-yflenwi'r diftygf. F^in bwriad yw rhoi cyfieithiad newydd o'r penodau ac esbomad byr arnynt; yna pum neu chwe pennod ar faterion fel Esaiah I, ac Esaiah II • « Gwas yr Arglwydd " &c. Bwriedir i'r llyfr fod allan erbyn de'chreu'r flwyddyn, os ceir cefnogaeth Ni fydd ei bris dros ddau swllt. Mawr' lawenhaem pe clywem oddiwrth dderbynwyr yn y cyf- amser." Mawr hyderwn y rhoddir pob cefnogaeth i r ddau frawd dys- gedig- ac athrylithgar, ac yr anfonir archebion am y llyfr yn ddiym- droi Cyfeiriad Gwili—14, Miskin Road, Cardiff. Cyfeinad Mr Morgan—30, Castle Street, Oxford Circus, London, W.