Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ f RHIF. XXXIX. MEDI 15, 1907 ÇYF. IV Xya tfr £lall. Ni ddylai dyn gartrefu yn y gorffennol, ac nis gellir byw y by wyd helaethaf yn y fynwent. Anoeth yw treulio.oes gyfan i chwilio'r beddau. ac nid i ddarllen côf-golofnau a chofiannau vr ymddangosodd neb yn y cnawd. Nid y cynddiluwiaid ddylai'n cymdeithion beunydd- iol fod. Eto i gyd, colled yw llwyr anwybyddu'r mynedol, am fod llawer o fywyd yn y gladdfa, a llawer un gladdwyd mor fyw ag erioed. A bendith yw ambell awr o gymdeithas y meirw byw hyn; rhydd galon, ac awydd, ac ysbrydiaeth i weithio. Nis gall yr hwn na -.ŵy-r. rywbeth am y sefydliadau fod o gymaint gwerth i'w gydoeswyr drwy y sefydüadau hynny a'r hwn sydd wedi eu holrain i'w dechreuad, ac wedi ceisio ymgydnabyddu a'r sefydlwyr. Adyna ywgwerth hanes ; y mae yn ychwaneg-u nerth—os na fydd ydynynormodo freuddwyd- iwr neu wron-addolwr. * * * Rai misoedd yn ol dywedasom fod g-an y Parch R. C. Roberts, Pembroke Dock lyfr yn y wasg-. Y mae y llyfr hwnnw wedi ei gy- hoeddi erbyn hyn, a chymarwn y cyfleusdra hwn i'w gymeradwyo i sylw ein darllenwyr a'u hannog- i'w brynu a'i ddarllen. Hanes eglwysi Seisnig sir Renfro ydyw, wedi ei ysgrifennu yn Saesneg mewn arddull syml a darllenadwy. Gwerthiref am [/-, 1/6, a 2/-, a gellir ei gael oddiwrth yr awdwr. * * * Heblaw hanes eglwysi Seisneg y Sir ceir yn y llyfr hanes Coleg Hwlffordd; hanes y Gymanfaoedd ; enwau'r lleoedd y cynhaliwyd y Cymanfaoedd yn ystod yr un flynedd ar bymtheg a thrigain diweddaf, testynau y cylch-lythyrau, ynghyd ag enwau gweinidogion ymadaw- edig Penfro o Griffith Howell yi> 1705 hyd William. Griffith, Bethel, Mynachlogddu yn 1906. * * * Cynhaliwyd y Gymanfa ym Mlaenconin yn 1834, 1858, ac, 1881 ; Ffynnon yn 1846, ac 1873; Tabor, Dinas, . 1847, 1871 ac 1885 Carmel, 1835, 1854, 1888 : Trefdraeth, 1833, 1864, 1903.; Abergwaen,. 1841, 1867, 1891 ; Blaenffos, 1848, 1803, 1889; Bethabdra, 1S52,, 1894; Harmony, 1870, 1906; Horeb, Maenclochog. 1880.