Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIf. XXXVIII. . AWST 15, 1907 CYF. IV Y DIWEDDAR MR. SIMON LEWIS, MAESYFFYNNON. FEL llawer dyn gwasanaethgar arall yn hanes ein gwlad bu raid i'n cyfaill cu, Simon Lewis, noswylio'n g-ynnar. A chipiwvd ef oddiwrthym yn sydyn ac yn anisgwyliadwy iawn, yng nghanol ei ddyddiau, yn aníerth ei nerth. Edrychai'n iach a brâf a chryf a sefydlog, a phwy feddyliai fis yn ol fod dydd ei ymadawiad mor agos? Pan y gwelsom ef díliweddaf yr oedd ei lygad mor siriol a'i ysbryd mor llon ag y buont erioed. Siaradai am englyn ac emyn a chàn, am feirdd a llenorion a phregethwyr, am ddirwest a diwinyddiaeth a chrefydd. Dywedai eiriau caredig am y Piwritan Nf.wydd a'i olygyddion, canmolai ysgrifau M. B. O., ac addawai ysgrif ar y diweddar David James, Ysgolfeistr, Henllan. Ond------. Dydd Sadwrn, Gorfîennaf 20ain, aeth yr ymadawedig, yn ol arfer amaethwyr y cylchoedd, i gynorthwyo cymdogion iddo gyda'r gwair. Yr oedd yn ddiwrnod poeth iawn, a dioddefai pawb weith- iai yn y cae, i raddau mwy neu lai, oddiwrth y gwres. Yn gynnar yn y prydnawn cymerwyd ein brawd yn glaf, ac aeth i orwedd yn y cyhudd, gan feddwl dod yn well ac ail ymaflyd yn ei waith. Ond yn lle gwella, gwaelu wnaeth, a chyrchwyd meddygato. Gwnaeth y meddygyr.hyn allai. Gwnaeth pawb yr hyn a allent. Ond nis gaJlodd medr meddyg a thynerwch cymdogion gadw angeu draw. Y dydd Mercher canlynol daeth torf liosog o bell ac agos, i dalu y gymwynas olaf i un a adwaenid fel cymwynaswr. Wedi darllen a gŵeddio yn y tŷ gan y Parch J J Evans, Rhydwilym,awd a'.r gwedd- illion mewn elorgerbyd i gladdfa Calfaria, Login. Traddodwyd anerchiad yn y capel gan y Parch D S Davies, gweinidog ; ac ar lan y bedd gan y Parch D E Williams (A), Henllan ; a therfyn- wyd y ^gwasanaeth angladdol drwy weddi gan y Parch J Tafionydd Daviês, Elim Parc. Nodded Dnw fb dros y fam osdrannus a'r brawd a'r chwiorydd galarus. Ffarwel, frawd! Da oedd dy adnabod! " Still it is good to have known thee, But that thou should'sf die That thou should'st perish from thyself And cease to be, I cannot credit. Somewhere nearer (ì(jd When this thick mortal slumber Has gone by, we shall awaken." __________• ;-•,-':