Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXXVII. GORFFENNAF 15, 1907 CYF. IV Xyn a'r Cloll. Un o eglwysi lleiaf Fenfro Gymreig yw Beulah, Castellnewydd- bach. Rhifa'r aelodau tua 90. Gweithwyr amaethyddol, mân dydd- ynwyr, a chrefftwyr gwlad ywV mwyafrif, ac nid oes neb o honynt yn gyfoethog iawn. Cychwynwyd yr achos yn niwedd y ddeunawfed ganrif, pan oedd poblogaeth yr ardal yn fwy nag ydyw yn awr, a chodwyd y capel bychan yn 1808, tua phedwar ugain a deg o flyn- yddoedd cyn agor v ffordd haearn sy'n cysylltu'r gymydogaeth â'r byd masnachol. * * * Gweinidog cyntaf yr eglwys oedd un o'r enw Joseph James, pregethwr cynorthwyol yn Llangloffan. Ymhlith y gweinidogion ereill fuont yn y lle gellir enwi Thomas Gabriel Jones, Athraw Clas- urol yng ngholeg Hwlffordd, a gwrthwynebydd Jones Llangollen yn ' Ffair Fedydd ' Rhymni; J. P. Davies, Caerffili; a G. Havard, Hên- dygwyn ar Dâf. * * * Ychydig- flynyddoedd yn ol daeth amser prydles y tîr perthynol i'r eglwýs i ben, a chan na werthai'r perchennog y darn o dan £200, bu raid cynnyg y swm hwnnw am dano, a myned ati o ddifrif i gasglu'r arian. A thrwy ymdrechion diflino y gweinidog a'r eglwys, a chyn- orthwy caredigion yr achos mewn mannau ereill daeth yr erw tir i feddiant y frawdoliaeth. * * * Wedi gwneyd gorchest f«l yna, sychedai gwyr Beulah am wneyd gorchest arall. Yr oedd eisieu adnewyddu'r capel, ac wedi prynnu y y tir yr oedd gan y brodyr galon at y gwaith, a chan y gweinidog athrylith i gasglu a chryn dipyn o brofiad, osoesangen profiad lle mae