Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXXVI. MEHEFIN 15, 1907. CYF. IV Kyn a'r Clall. Cyhoeddir dau Jyfr dyddorol yn fuan, un yn cynnwys ychydig- o hanes eglwysi Sir Benfro, a'r llall, rai o ddywediadau y diweddar Barch William Jones, Abergwaen. Awdwr y cyntaf yw'r Parch R. C. Roberts. Pembroke Dock, ac awdures yr ail yw boneddiges o ardal Abergwaen—chwaer Mr W..G. George, Llysyronnen, Cadeirydd Cymanfa Sir Benfro am y flwyddyn sydd newydd derfynu. * * * Nis gwyddom a yw y canlynol ymhlith casgliad dywediadau y meddyliwr o Abergwaen :—" Diolch mod i yn ddyn. Nid wyf am fod yn angel nac yn seraff: dyn wyf am fod am byth—William Jones i dragwyddoldeb." * * * Dywedodd Mr Jones hyn mewn Cymanfa a gynhaliwyd chwe mlynedd ar hugain yn ol. Yn y gymanfa honno hefyd y digiodd Dr Waldo James rai perthynol i enwadau ereill drwy ddweyd nad Bedyddiwr yw'r Diafol. * * * Da gennym i'r Parch Morgan Jones B.A. lwyddo i gael y Faner a'r Geninen i Ddarllendy, Whitland. Mae cryn dipyn o ysbryd Dic Shon Dafydd yn yr Hendygwyn-ar-Daf. Diolch fod Mr Jones yn llawn oV ysbryd a'r tân Cymreig-. * * * Da gennym hefyd fod y Labour Leader i gael lle yn y Darllendy o hyn allan. Mr Thomas Williams, cynrychiolydd Llafur ar Gyngor