Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ f ÌWfôSfŵl IMTgl, RHIF. XXXV. MAI 15, 1907. CYF. IV I Mr J. W. LLEWHELIN, Bristgarn, Blin iawn gennym orfod cofnodi marwolaeth gynnar y hrawd rhagorol uchod. Ganwyd ef yn yr Holmhouse, ger Trefdraeth, Tach. 4 1859. Cafodd addysg dda ym moreu ei oes. Bwriadai fod yn Ironmonger a èhafodd ei breintisio i'r alwedig"aeth honno yn Aberteifi. Tra yn Aberteifì, teimlodd argraffiadau crefyddol dyfn- ion, a phenderfynodd ymwasg-u a'r disgyblion. a bedyddiwyd ef ym Methania Chwefror 187.5 &an Y diweddar Barch D. Davies, (Dewi Dyfan,) a bu yn aelod crefyddol g-weithgar a ffyddlon o'r adeg honno hyd ei fedd. Torrodd ei iechyd i lawr i fesur yn Aberteifi, a bu rhaid dychwelyd i'w gartref clyd yn yr Holmhouse. Pender- fynodd yn awr gydio mewn amaethyddiaeth, a daeth yn un o fferm- wyr goreu y wlad. Priododd yn gymharol ieuanc a Miss A. T. Williams, Bristgarn, Pencaer, a daeth i fyw i Fristgarn. Ymaelod- odd yn Harmony, a phenderfynodd wneyd ei hun yn aelod byw a nodedig ddefnyddioì yn yr eglwÿs. Fel aelod eglwysig, bu o wasanaeth dirfawr i'r achos ar hyd ei oes. Gwasanaethodd y swydd o ysgrifennydd yr eg-lwys am yn agos 25 mlynedd ; gwnaeth ei waithyn lân, diwyd, gofalus, trefnus a nodedigo effeithiol a chywir. Bu yn arolygydd yr Ysgol Sul lawer gwaith, ac yn athraw ffyddlon am lawer blwyddyn. ; Gwasanaethodd y swydd ddiaconaidd gyda gradd dda am am- ryw flynydäoedd. Gwnaed ef hefyd yn un o Ymddiriedolwyr yr eglwys flynyddoedd yn ol. Dewisid ef bron bob amser gan yr eglwys i'w chynrychioli yii y cyrddau chwarter a'r cymanfaoedd.