Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXXIII. MAWRTH 15, 1907. CYF. IV Abercrave. Y GWANWYN. Gobaith haf yw'r gwanwyn tyner, Beddrod gwyrdd y gaeaf g-wiw, O brydferthwch a chyflawnder— Protfwydoliaeth ieuanc yw; Balmaidd yw ei fwyn awelon, Swynol ei garolau per, Dengar iawn ei flodau tlysion Hyfryd ei fiurfafen dêr Hoff etifedd tlysni'r flwyddyn Mae tangnefedd yn ei drem ; Gweddnewidiad byd yw'r gwanwyn Heb un storm nac awel lem. Nwyfus gryd yr addfed gnydau Siglir gan y wawrddydd lân, Hardd oifeiriad y cysgodau Ac eneiniog dawns a chân. Clywch yr adar yn telori Gyda'r wawr a brig yr hwyr, A'r coedwigoedd yn ymdonni Mewn cynghanedd dlos a llwyr. Clywch y tyner ŵyn yn brefu Ar y bryn ac ar y ddol, Gywch y gwcw fwyn yn canu Fod yr haf yn dod yn ol. Mae y coedydd yn blaguro, A hudoledd ar bob llwyn, Mae y meusydd yn blodeuo, A phob Uethr yn gwisgo swyn; Dacw'r ardd yn ymddadebru Wedi bod yn cysgu'n hir, A'i gogoniant yn mynegu ÌFod y gwanwyn yn y tir. GWELEDYDD