Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXXI. IONAWR 15, 1907. CYF. IV 1907. WEDAIS llynedd croeso i Cliwareu teg i'r flwyddyn Flwjddyn atom ni : Dwedaf 'leni eto Croeso wrthyt ti. 3 Gwir y gallai bwyllo Weithiau ar ei thaith, Ac y dylai dreio Aros ambell waith. Oedd pan ddaethost ti, Nid oes le i achwyn Nemor arni hi. 4 Ond os daeth i'r terfyn Cyn y carwn i, Gwelais lawer blwyddyn Dipyn gwaeth na hi. Cyfl/m yr ai dithau Eto drwy y byd : Onid yw'r blynyddau 'N mynd yn gynt o hyd ? Kyn a'r Clall Ychydig wythnosau yn ol derbyniasom lythyr dyddorol a.chalon- ogol iawn oddiwrth " Pryderus." un o'r dynion mwyaf meddylgar a goleuedig yn eglwysi y cylchoedd—dyn nad yw bob amser yn cer. dded ar hyd hen rigolau diwinvddol y tadau, ac yn derbyn pob tra- ddodiad fel gwirionedd diamheuol. Diolchai yn gynnes i M.B.O. am ei ysgrifau gwerthfawr, fis ar ol mis, yn y P.N., ac mewn modd neill- duol am ei ysgrif ar " Ebyrth Dynol yn Israel." Ac wedi talu diolch am yr hyn gaed, gofynnai am egîurhad ar berthynas aberth Crist â Duw. Anfonasom lythyr ein gohcbydd at Mr Owen; a chynnyg i daflu goleu ar y pwnc i feddwl " Prydertis" yw'r erthygl a welir ar dudalennau 5, 6 a 7 yn y rhifyn hwn. * * * Gair neu ddau at Eisteddfodwyr. 1 Mae Mr D Emlyn Evans wedi cyfansoddi unawd i'r geiriau " Y Ferch o Lannau Teifi." 2 Cynhelir F.isteddfod yn y Gelli, Llawhaden, Gwener y Groglith nesaf.