Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXX. RHAGFYR 15, 1906. CYF. III Kyx\ a'r ClolL Nid y cyhoeddwyr ac nid y golygyddion bia'r clod i gyd am ddwyn allan rifynnau'r flwyddyn a chyfrol arall o'r Piwritan Newydd. Heb gynorthwy cyfeillion llêngar a cherddg-ar a charedig, cefnogaeth unigolion brwdfrydig ac eglwysi darllengar, a chydweithrediad dos- barthwyr, beth a ailem wneyd ? Gyda chynorthwy a chefnog-aeth a chydweithrediad y gwnaethom yr hyn a wnaethom yn wyneb rhai anhawsterau, llawer o eiddigeddau, ac ychydig wrthwynebiadau. Ac yn awr ar ddiwedd blwyddyn dymunwn ddiolch i bawb y mae diolch yn ddyledus am eu gwasanaeth—i'r llenorion, a'r beirdd a'r cantorion, a beirniaid cystadleuaethau y plant, a'r cofnodwyr. Ie, a diolch i'r crafwyr a'r critics ar lafar ac mewn argraff. * * * Bwriadwn wneyd ein goreu eto y flwyddyn nesaf. Erfyniwn am barhad ffyddlondeb ein cynorthwywyr, a gwahoddwn frodyr a chwi- orydd ereill i anfon i ni ysgrifau ystwyth, dyddorol, a tharawiadol i'n cyhoeddiad. Gobeithiwn y gwna ein dosbarthwyr amcanu dyblu rhif y derbynwyr. Carem hefyd pe dywedai ein gweinidogion air am y Piwritan Newydd wrth eu cynulleidfaoedd ar y trydydd Sul o'r mis hwn. Cyn dechreu chwilio'. mewn cyfeiriadau ereill am ddarnau cyf- addas i'r plant ar gyfer cyfarfodydd adloniadol y tymor, cofied ein darllenwyr fod amryw o ddarnau adroddiadol campus wedi ymddang- os ar dudalennau'r Piwritan Newydd yn ystod y flwyddyn hon, ac nas gellir cael eu rhagorach mewn unrhyw gyhoeddiad o'r fath. I ba ddiben myned i bellter daear i ymofyn dwfr pan y mae ffynnon fywiol, groew, loew, yn ymyl y ty ? * * # Dymunwn longyfarch Mr T R Davies, Rhydwilym, athraw cyn- orthwyol yn ysgol Brynconin, Clynderwen, ar ei lwyddiant yn ennill un o'r gwobrau Pum Punnoedd gynygid gan Mr Stead yn y Reoìew of JReriews, am draethawd ar " Tht Revival of Reading." Yn ystod y