Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXVIII. HYDREF 15, 1906. CYF. III ymdoith Y^g Xgwlad y^ £UmYH. WEDI treulio noswaith ar fwrdd yr agerlong cyrhaeddwyd Flushing, Holland, gyda'r wawr, ac ar ol wyth awr o drafaelu mewn cyflym gerbydres ar hyd gwastadedd brâs, llydan, ac yn ymestyn am gannoedd o filltiroedd o'r mor i fyny'r Rhine disgyn- nais yn ddiogel ar lwyfan gorsaf Bonn. Synnwn pan yn y tren weled gwlad mor wastad ar bob llaw, ni chanfyddwn na bryn na mynydd yn unman nes daeth y Siebendieberge, gerllaw Bonn, i'r golwg. Yn Holland mae'r tir yn is na'r mor, a chedwir y mor rhag gorlifo'r meusydd gan warchgloddiau cryfion —mewn llawer lle o dri chryfdwr, y naill glawdd yn wrthgefn i'r Ua.ll. Mewn un man tor- rasai'r mor fwlch, a gwnaeth alanast mawr ar y planhigfeydd a'r meusydd, ac yr oedd tyrfa o ddynion wrthi yn adgau'r bwlch pan Oeddem ni ym myned heibio. Peth arall a'n synnai oedd sylwi nad oedd yn y wlad yn Holland nac yn Germany, na chlawdd na gwrych o ddrain yn gwahanu maes amaethwr oddiwrth eiddo ei gymydog— mor wahanol i Gymru, lle gwelir cloddiau uchel o gylch pob ffarm a drain uchel ar ben y rheiny, ac yn aml wifren bigog at hynny yn ogystal. O gylch Bonn, cyffelyb yw agwedd y tir, a gallwn feddwl oddiwrrth nifer y llafurwyr ar y gwastadeddau am ddeg milltir i bob cyfeiriad oddiyma, fod cannoedd lawer o fàn denantiaid i'r tir. Cerdd- ais ugeiniau o filltiroedd i'r wlad er gweled dull y bobl o fyw, o lafurio ac o grefydda, a thalwn gryn lawer o sylw wrth basio drwy'r pentrefydd i'r tai a'r siopau a'r arwyddion wrth ben eu drysau, i'r eglwysi a'r mynwentydd a phethau felly ; a thelid llawer o sylw i minnau gan y bobl, ne3 weithiau y gwridwn gan ostyngeiddrwydd am y fath sylw a dynnwn. Gwyddent oddiwrth fashiwn fy nghap