Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXV4, AWST 15, 1906. CYF. III Marwolaeth a Chladdedigaeth y Parch. W. Griffith, Bethel, Mynachlogddu. DYDD Mawrth, GorfFennaf 3iain, wedi deng niwrnod o gystudd caled bu farw'r Parch William Griffith, gweinidog- eglwys Bethel am yn agos i ddeugain mlynedd, a chladdwyd ei wedd- illion ym mynwent y capel y dydd Sadwrn canlynol. Ni fedd- yliai neb ychydig wythnosau cyn hynny fod oes Mr Griffith mor agos i'r terfyn, a daeth y newydd anisgwyliadwy o'i farwolaeth i lu o'i g-yfeillion a'i edmygwyr cyn iddynt glywed ei fod yn gystuddiedig gan ddolur poenus. Fel CalebMorris, Myfyr Emlyn, Mr Jenldns (Hill Park), a Mr Tyssul Evans, un o feibion mynyddoedd Penfro ydoedd, ac yno gyda'r grug a'r defaid mân oedd ei galon. Ym Mynachlogddu, rhwng y moelydd ysgythrog, yn swn murmur yr afon Cleddau, mewn ffermdy oV enw Blaencleddau, y g-anwyd ef yn 1844 Bu yn yr ysgol yn Bethel gyda Daniel John, Dredyrch, ym Mhenygroes gyda John Davies, ym Mlaenconin gyda Stephen \Villiams, acyn Hermon, Llan- fyrnach, gyda Mr Egerton. Bu wedi hynny am ryw flwyddyn a hanner mewn siop fferyllydd yn Arberth. Dychwelodd adref a dech- reuodd breg-ethu. Aeth i ysgol rhag-baratoawl Mr i'almer, Aber- teifi, ac oddiyno ar ei draul ei hun i Goleg- Presbyteraídd Caerfyrddin, lle y bu am ddwy flynedd. Yn 1867 bwriadai fyned i athrofa Rawdon. ac aeth drwy yr arholiad yn llwyddiannus, or.d tua'r amser hynny, ymadawodd y Parch Daniel Davies, gweinidog- Bethel (yrhwn a fedyddiodd Mr Griffith yn 1851) a chymhellwyd ef i ymsefydlu yn ei fam eglwys. Cydsyniodd yntau ac ordeiniwyd ef yn 1867. An- rhydeddwyd proffwyd yn ei w-lad ei hun a chan ei bobl ei hun, a bu