Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXV. GORFFENNAF 15, 1906. CYF. III 1 /JWELAIS ar gangen " Aderyn llon, bach, Siglai ei aden Yn yr awel iach. 2 Canai'n dra melus Anthem ei fron— Anthem foliannus I Dduw'oedd hon. 3 Heibio daeth storom— Storom faẃr, gref, Ac yn y storom Boddwyd ei lef. 4 Rhy wan ac eiddil I ymladd â'r gwynt, Chwythwyd 'run anwyl Ffwrdd yn ei hynt. 5 Ond wedi'r corwynt Dyrcha ei lef, Ar ol yr helynt Uwçh â i'r Nef. 6 Fyny o galon Ffrydia y gân— Swynol acenion Ä< Aderyn g'lân. 7 Plentyn y Nefoedd Ar lawer pryd, Deflir g-an wyntoedd Geirwon y byd. 8 Rhuthra cadernid: Ystormydd certh, Ond yn ei wendid Ganddo mae nerth. 9 Gwawdied y gelyn— Ddiefiig âch, Chwareua telyn Ei galon fach. io Tynion yw'r tannau Ar ben y bryn, Nefol yw nodau'r Plentyn pryd hyn. J. TAFIONYDD DAYIES.