Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

rhif. xxnv. MEHEFIN 15, 1906. CYF. III Y Parch J. W. Maurice, Tabor, Dinas Cross. " Myiì ni'th folaf. Arall sydd a'th fawl— Yr Eglwys, ac a'th fawl yn well na mi." DYDD o'r blaen digwyddais ddweyd wrth weinidog anibynnol fod arnaf eisieu ysgrifennu gair am yr uchod i'r Piwritan. " Wel," ebai " Mae gennych destyn ardderchog." Eithaf gwir. Nid son am ei g-orff wyf am wneyd. Mae iddo gorff sy'n aros yn lluniaidd a braf er fod 65 mlynedd o'i oes wedi mynd yn ol i'r anhysbys raawr, ac yntau felly wedi dringo yn ddigon dros lechwedd amser i'r eira gwyn aros yn ansymudol ar ei ben. Mae ei lygad a'i glust heb eu amharu, ac erys mor hoew a Hawer llanc 21 mlwydd oed, er fod y llais fu unwaith fel udgorn ar lwyfan wedi teimlo tipyn o dan 4S mlynedd o bregethu angherddol. Mae iddo bersonoliaeth yn llawn o'r peth cyfriniol hwnnw sy'n gwneyd ei berchennog yn ddylanwad arhosol yn hollol ddi-ynìgais. Dyn mawr, dyn gwyn, dyn iach, yn yr ystyr uwchaf yw. Efe sydd fel myrtwydd yn y pant a'i- wraidd wrth a|en Duw. Ei fywyd sydd fel mynydd Duw yn orchuddiedig gan flodau a phalmwydd lluniaidd a chedrwydd cedyrn. Cafodd ei eni mewn man sy'n awgrymu perarogledd— " Myrtle Hill," Llanfyrnach ; a hynny ar adeg pan oedd y gwanwyn wedi gwneyd ei waith ar fryn a dol; pan oedd yr awelon yn chwareu ar delynau newyddion y coed a'r bobl yn croesaw y gôg i'r fro- Ebrill 27ain (1841). Un o blant y boreu ydyw. Nid rhyfedd oblegid un o blant y gwanwyn ydyw. Ar lechwedd y boreu, ieungrwydd adgyfodiad a buddugoliaeth geir. Gall Crist gael ei eni ar fin yr hwyr, a " Lliw Nos " yn gynorthwy i ddangos disglaerdeb goleuni nefol i fugeiliaid ym meusydd Bethlehem, ond rhaid iddo gael y plygai» pan mae'r wawr fel pe yn rhwbio ei llygaid ar erchwyn ei