Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Wìm RHIF. XXIII. MAI 15, 1906. CYF. III AT EIN GOHEBWYR. H.E.H. Dywedwyd wrthym mai y penillion g-oreu yn y " Mel Gwyllt" y w y rhai canlynol: I Canu Salmau wna'r aderyn Salmau 'i hunan bob yr un : Ac mae dyn yn llawn o fiwsig Pan yn onest iddo 'i hun. 2 Ddỳn y gragen ! deffro! deffro! Gwel y deryn ar ei dra'd Heb ddim lol, na ffurf, na doniau Yn gweddio ar ei Dâd. 3 Gymru anwyl! allan ! allan ! I gael trem ar Deml Dduw ; Ffwrdd a'r syniad yn dragwyddol Mai dy gragen fechan yw ! Emyn—Carai J.R. o Gernyw wybod am gyfidthiad da o emyn Ebenezer Elliot, " Goá save ihe People." Os gwna un o'n darllenwyr anfon cyfieithiad i ni, bydcl yn bleser mawr gennym gyhoeddi yr emyn. Athraw.— " Pwy sefjdlodd yr Ysgol Sul? " Yn Lloegr, Robert Raikes. Yng Nghymru, Charles o'r Bala, yn ol rhai; yn ol ereill, Morgan John Rhys. Methodist.oedd y blaenaf; Bedyddiwr, yr olaf. A ddarllenasoch chwi ysgrif Hsíyn y P.N. diweddaf—yr hon wedi ymlaen ? Ystyi ei ateb erbyn hyn. Diacdn Cymedrol.—Darllenwch "F Beill a Dirweü" gan y Parch E. K. Jones Brymbo. Ei bris ydyw chwe cheiniog. O ac EREiLL.—Nis gellir rhoddi lle i " ddarnau heb atalnodau " yn y cyhoeddiad hwn. Mae bywyd yn rhy fyr i'w wastraffu ar bethau o'rfath. Disgybl.—Brodor o ardal Castellnewydd Bach oedd Joseph Harnes (Gomer), cychwynydd a golygyd.l cyntaf Seren Gomer. Erys nid yn unig enwad y Bedyddwyrond yr holIGenedlGymreigodanddyled bvthol i Gomer — Harries. Gobeithiwn cyn hir- gael ysgrif arno