Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

¥ fWMfM 11 WYIi, RHIF. XXII. EBRILL 15, l90r». CYF. III Llef yn Llefain. IGON tebyg na fu neb yng Nghymru crioed a ddeallai egwydd- orion sylfaenol Ymneillduaeth yn fwy llwyr ac a'u dadfeuai yn fwy hyf na Morg-an John Rhys, un o sefydlwyr yr Ysg-ol Sul, un o brofîwydi addysg, rhyddid cydwybod, a iawnderau cymdeithasol. Ar lwybr ufydd-dod i'r Awdurdodau Uchaf treuliodd y dyn hwn ei fywyd mewn gwrthryfel yn erbyn yr is. Yr oedd yn byw dros ganrif yn ol. Yr oedJ dros ganrif o fiaen ei oes. Heddyw ar ddechreu yr 2ofed ganrif gallasai enwad y Bedyddwyr a Chymru wneyd gwasan- aeth i Brydain a'r byd drwy sefyll yn ddi-ysgog ar y tir y safai Morg'an John Rhys arno yn niwedd y iSfed ganriif. Yn sicr, arwydd er daioni, fel ' swn canu gobaith ar y bryniau,' fyddai gweled ei en- wad a'i genedl yn codi i dir dig-on uchel i allu g-werthfawrog-i ei fywyd a'i esiampl. Beth pe byddai Ymneilîduwyr Cymru yn fedd- iannol ar ei ysbryd ! Ie, pe byddai ond ug-ain yng- Nghymru wedi eu meddiannu g-an ei ysbryd nid symbal yn tincian ofnid glywed ym Mesur Addysg- y Llywodraeth, ond byddid yn hyderus ddisgwyl am glywed llais C)fiawnder a chnul gobeithion yr Offeiriadaeth. Rhydd- heid addysg o afeilion ymrafael ac ymgecraeth am g'enhedlaethau. Codai llais yr Eglwysi Rhyddion yn daran i wahardd yr un anghyf- iawnder cymdeithasol daflu ei g'ysgod du ar enw crefydd Iesu Grist. Nid un o dylwyth Hankv Pankv oedd efe. Nid oedd ci fryd ar gael allan gyfeiriad y cymylau a llwybr y gwynt er mwyn elelychu e\i gwamalrwydd. Gwasanaethodd ei oes a'r oesau fel un o feibion glewion yr hanfodol a'r arosol Mewn dyhewyd i egwyddorion tra- gv\yddol cylìawnder yr oedd bron yn ddihafal. Drwy drugaredd y mae gennym fel Ymneillduwyr yn y dyddiau hyn amryw o arweinwyr y dylem ymfalchio ynddynt, ond nis gwn am un arweinydd sydd gennym na cheid rywbeth yn brin o'i gymharu à Morgan John Rhys. Yr oedd sêl gysegredig Rhyddid yn ei ysu.