Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XXI. MAWRTH, 1906. CYF. III Y Diweddar Mrs. Davies, Llangloffan. [Gan y Parch J. W. Maurice, Tabor, Dinas.] lUhERCH ydoedd yr ymadawedig i'r diweddar John a Rachei J -* Phillips, Bryntroedg-am, ym mhlwyf Margam, Sir Forgannwg. Brawd iddi yw Mr. John Phillips, cerddor nid anenwog ac arweinydd y canu yn eglwys barchus a gweithgar Noddfa, Pontycymmer, Morgannwg. Brawd arall iddi a adwaenwn yn dda flynyddoedd yn ol oedd Mr William Phillips (Gwilym Glanffrwd) bardd o gryn allu ac enwogrwydd yn ei ddydd. Chwaer iddi oedd diweddar briod Mr William Davies, diacon henaf yr eglwys fechan weithgar a chynyddol ym Mryntroedgam, a mam i Mr Evan Davies, Ysgolfeistr, Dinas, arweinydd medrus y gân yn Nhabor. Dichon fod iddi frodyr a chwiorydd ereill mor dda a gweithgar a rhai a nodwyd, ond yr uchod yn unig oedd ac ydynt adnabyddus i mi. Yr ydym yn nodi y pethau hyn yn unig- er mwyn dangos fod Mrs Davies yn hannu o un o'r teuluoedd hynny yn ein pliih ag ydynt yn cynnal yr Achos Mawr ymlaen, ac yn offerynnau drwy y rhai ynglyn â'r weinidogaeth gristionogol y mae Duw yn ei Iwyddo yn ein gwlad. Y mae miloedd yn aelodau yn yr eg-lwysi gwahanol yng- Nghymru ar ran dim a wnant neu a ddywedant hwy buasai ein capelau wedi eu cauad i fyny er's llawer blwyddyn. Y tro cyntaf i mi gael adnabyddiaeth o'r chwaer dda hon, os wyf yn cofio yn iawn, oedd dydd ordeiniad ein brawd anwyl a'n cyfaill mynwesol y Parch Ifan Dafis yng Nghwmsarn Jdu, Sir Gaerfyrddin yn y flwyddyn 1865. Ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngom y diwrnod hwnnw ag sydd yn dal yr oll sydd wedi ein cyfarfod hyd yn hyn, ac