Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHIF. XX. CHWEFROR, 1906. CYF. III ETHOLIAD 1906. "Y Frwydr aeth drosodd o'r diwedd, A baeddwyd y gelyn yn llwyr Catrodau'r Tywyllwch orchfygwyd A"r boreu ddilynodd yr hwyr." Hanes yw y ddwy linnell gyntaf: iaith gobaith yw y ddwy olaf. Mae boreu i ddilyn yr hwyr. Du fu y nos. A hir y parhaodd. "Ond wele y Dwyrain yn oleu gan arwyddion torriad dydd. Bellach y mae carcharorrion Trais a chlwyfedigion Camwri yn disgwylmewn Uawn hyder ffydd am ddyfodiad Rhyddid, a chyfodiad haul Cyfíawnder a meddyginiaeth yn ei esgyll. Mae yn wir na ddaw y Milflwyddiant eleni eto, ond y mae gryn dipyn yn agosach nag y ' meddyliem erioed' bum mlynedd yn ol. Dylai'r etholiad fod yn adgyfnerthiad i'n ffydd yn Nuw a Dynoliaeth, ac yn symbyliad i ni i lynu yn fwy egniol wrth egwyddorrion gwir Rhyddfrydiaeth er i Judas fradychu a Phedr wadu. Ni fydd yn iawn ar Brydain nes y gwrthodir Tonaelh mor llwyr ag y gwrthodwyd Toriaid y tro hwn. Ni fydd yn dda arnom nes y cred pob « crefydd- wr ' yn ei galon fod poliiics—nid gwaeddi mewn lecsiwn yw hynny— yn rhan bwysig o grefydd ymarferol (applùd rdigion); ni fydd yn dda arnom nes y dealla pob pleidleisydd mai ei ddyledswydd yw am- ddiffyn hawliau cyffredin dynoliaeth o flaen hawliau arbenigol. An- hawdd yw hyn, ond nid mwy na llai anhawdd na myned i mewn i Deyrnas Nefoedd. * ŵ * Enwir dwy egwyddor na ddylid colli golwg arnynt : 1 Hawl dyn i fyw-ar delerau Duw.