Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. AL y Cwm. 1. Onid yw hanes plentyndod yr Tesu yn ddyddorol, heb son am dduwin- yddiaeth, i bawb sy'n teimlo swyn bywyd dynol syml ? Y mae'r Hindw, hyd yn oed, yn gweled yn yr hanes ddwyfoldeb plentyn- dod a dwyfoldeb cariad mam. 2. Onid Holman Hunt yw'r arlunydd baentiodd ddarlun o gorff yr Iesu, pan yn gweithio yn siop y saer, yn taflu cysgod y groes y tu ol iddo ? Enid. Y mae gennyf amryw ddarluniau plant wedi eu cerfìo, yn eu mysg rai o'r casglwyr at gof-golofn T. E. Ellis. Daw darluniau o blant Treorci, Llanllechid, a Llanrwst yn gynnar. E. K. Y mae llyfr Saesneg dyddorol ar Owen Glyndŵr gan Mr. A. G. Bradley. Y mae'n anodd ysgrifennu'r cwbl am yr arwr Cymreig yn awr, gan nad oes neb wedi darllen trwy'r holl groniclau, cywyddau, rhestri maenor, &c., sy'n taflu goleuni ar ei amser cyffrous. Cymro o Gynfal. Byddwch yn llawer nes i'r gwir os credwch fod William Tell wedi saethu'r afal, fod Joan of Arc wedi ei llosgi, ac yr ystyrrid Magna Charta drwy'r oesoedd yn sylfaen rhyddid Lloegr. Sian. Darlun o gwrr o ffatri Penmachno yw'r wyneb-ddarlun yn rhifyn Medi,—darlun o un o'r gweithwyr yn gweu cwilt yn ol hen batrwm Cymreig gyda gwehydd a'r cynllun diweddaraf. A.S. Y mae Eglwys Loegr hefyd yn cyhoeddi gwerslyfrau at wasanaeth yr Ysgol Sul. Cewch hwy oddiwrth Spurrell, Caerfyrddin. 0. Ymysg y pethau mwyaf derbyniol y mae,—hanesion tarawiadol, dadleuon, darnau bychain i'w hactio yn yr ysgolion a'r gobeithluoedd, a darnau i'w hadrodd. Cynhygia Undeb y Ddraig Goch chwe gwobr (£1, 15/-, 10/-, 10/-, 5/-, 5/-,) am ateb cwestiynau ar bum llyí'r, sef (1) Hanes Cymru, Rhan II., 1/6, neu Y Cymry, 3/- ; (2) Goronwy Owhn, Rhan L, 1/G ; (3) Cautiiefi Oymru, 1/-; (4) Mabinogion, 1/-; (5) Ann Griffiths, 2/-. Ceir (1) o Swyddfa Cymuu, Caernarfon; (2) oddiwrth Ab Owen, Llanuwchllyn: (3) a (4) oddiwrth y Mri. Hughes, "VVrexham ; (5) oddi- wrth y Mri. Gee, Dinbych. Bydd. manylion llawn yn y rhifyn nesaf. Bydd enwau y buddugwyr ar gystadleuaeth yr adar yn y rhifyn nesaf, a hefyd dechrau llawer o bethau newyddion. Ehowch eich enwau yn gynnar am rifyn lonawr, a chewch flwyddyn newydd dda.