Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. YD y gwelais, nid yw moesgarwch yn arwydd sicr fod cenedl yn wir waraidd. Wrth gofio am y cenedloedd Affricanaidd y bu yn eu mysg, dywed Mr. G. F. Scott Elliot,—" Politeness is always most marked in lawless and dangerous countries." Bob. Gellwch farnu drosoch eich hun a ydyw naturiaethwyr yn iawn pan ddywedant fod creadur- iaid byw yn cyfaddasu eu hunain i'r lliwiau sydd o'u hamgylch. Dywedir fod lliwiati'r teigr mor debyg i liwian'rjunyle, fel y gall ddod i ymyl ei ysglyfaeth heb ei ganfod. Eis i'r ardd ryw ddiwrnod, gan feddwl torri cangen o goeden ros, i'w phlannu. Yr oedd plentyn bychan gyda mi, ac ebai ef,—" Dyma gaugen fyw." Ac yn sicr ddigon, yr oedd y gaiigen yn ysgwyd, er nad oedd yno chwa o wynt. Pryf oedd y gangen fyw, tua hyd bys, ac yr oedd yn rhaid craffu yn y dull manylaf i weled nad cangen o'r pren oedd. Yr oedd o'r un lliw gwyrdd goleu, yr oedd wedi gosod ei hun yn union fel cangen, yr oedd yspotiau arno yr un fath yn union a rhai'r pren, yr oedd ei ben yn goch fel y blagur,—oni bai i chwí ei gyffwrdd, ni welech mai pryf oedd. Ond byw ar y blagur yr oedd ef, ac nid blaguro. J. E. Yn yr Ymofynydcl am fis Medi, gofynnir eich cwestiwn,—Pam mae'r Undodwyr mor gryfion mewn un llecyn yng Nghymru, yng ngodreu Ceredigion, ac yn unlle arall? Yr unig esboniad gynhygir yw agosrwydd Ooleg Presbyter- aidd Caerfyrddin. Ond dywedir nad oes un myfyriwr Undodaidd yn y coleg hwnnw yn awr. Ll. Jones. Diolch yn fawr am eich desgrifiad cryno a dyddorol o'r cwm tlws yn sir Frycheiniog. Ỳ mae ysgrifau fel hyn yn dderbynioliawn. Nid ydych yn dweyd a fagodd y cwm enwogion neu gymwynaswyr i'w cenedl. Fath addysg ga'r plant, ac ym mhle ? GtWilym. Y mae dadleuon tarawiadol yn dderbyniol iawn, at wasanaeth cyfarfodydd llenyddol a Gobeithluoedd. Ab G-alileo. Y mae gan Sigma erthygl ar Orion yn y rhifyn nesaf. Da gennyf eich hysbysu y parheir yr erthyglau hyn y flwyddyn nesaf. J. D. Dayies. Mordaith lwyddiannus i chwi. Bydd hanes y sefydliad yn Canada, yn enwedig hanes y plant, yn dderbyniol iawn. D. Ll. D. Y mae'n hawdd gennyf gredu fod y tonau'n dderbyniol; ac y mae'n bwysig dysgu'r plant i ganu mewn pob cartref trwy'r wlad. Awgrymwch fod dwy dôn i ymddangos weithiau yn yr un rhifyn. Beth ddywed darllenwyr ereill ?