Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. AD Bob. Dysgir plant yn Ffrainc a'r Almaen i gynilo, ac i edrych ar waith fel y peth mwyaf anrhydeddus. Dysgir plant yn ein gwlad ni i wario, ac i edrych ar chware fel um'g amcan difrif bywyd. Md y dyfeisiwr yw arwr yr oes hon, ond y cricedydd. Mae eisiau rhoi ysbryd hollol newydd yn y naill hanner o'n hysgolion elfennol, ac mewn naw o bob deg o'n hysgolion canolraddol. " Enillwyd brwydr Waterloo ar chwareule ysgol Eton." Digon tebyg. A dinistrir llwyddiant Prydain ar chwareuleoedd ugeiniau a channoedd oysgolion. D. 0. Yr wyf yn credu fod breuddwyd John Jones, y dechreuwr canu, yn hen ystori. Fel hyn y clywais i yr banes. Aeth John Jones at ei weinidog, a dywedodd,—" Mr. Williams, mi ges freuddwyd rhyfedd iawn neithiwr. Yr oeddwn yn gweld fy hun yn y nefoedd, mewn cymanfa ganu. Yr archangel Gabriel oedd yn arwain. Mi welwn filoedd o altos ar ymyl yr oriel, a miloedd ar fìloedd o sopranos. Yr oedd yno lond pob man o denorä, a minne fy hun yn canu bas. Toc, dyma Gabriel yn taro'r bwrdd â'i ffon, ac yn troi ataf gan ddweyd,—' John Jones, tipyn bach llai o fas os gwelwch yn dda.' " E. Y mae caneuon byrion syml yn dderbyniol iawn. Mair ac Idwal. Gwn, mi wn am " gasgliad bach, rhad, swynol o alawon yr holl Geltiaid." YmaiMr. R. Bryan newydd gyhoeddi " Alawon y Celt." Y mae yn y gyfrol fechan dair alaw Lydewig, dwy alaw Albanaidd, dwy alaw Wyddelig, a phum alaw Gymreig. Cewch y llyfr am bedair ceiniog a dimai oddiwrth W. Gwenlyn Evans, Caernarfon. Ola. Dafydd ab Gwilym ystyrrir yn fardd serch goreu Cymru. Cewch ei waith mewn cyfrol dlos oddiwrth R. E. Jones a'i Frodyr, cyhoeddwyr, Conwy, am 1/6. B.A. Cyhoeddir amryw gylchgronau i Gymry yn Saesneg. Y mae dau ohonynt dan yr olygiaeth fwyaf medrus yn ein llenyddiaeth, sef Cambrian yr Amerig, a Treaaury y wlad hon. \ I.E. B. aneglur. Y Plant. Dyma ddechreu mis Hydref, ac y mae'r golygydd yn parotoi rhifynnau cyntaf y flwyddyn newydd. Fath groeso gaitf Cymru'b. Plant y flwyddyn nesaf ? A wnaiff y plant fy helpu trwy ddweyd am dano ? A fedrwch chwi gael derbynwyr newydd ? Mwyaf o dderbynwyr gaf, goreu y medraf fìnuau ei wneyd. J. J., Pentre Bwlch. Cân dda, er mai rhyw led wgu wna golygydd ar y gair " paradwyso." Caiff ymddangos ym mis cyntaf y gloewod byw. Methais yn lân a chael cerfiad boddhaol, gan fod y darlun yn rhy