Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. x- WN innau am amryw blwyfi lle mae'r plant ieuengaf, rbai dan ddeg oed dyweder, a'u henwau yn enwau Cymraeg. Y mae Uawer o ffurfiau Cymraeg ar enwau dieithr hefyd, megis " Sian " a " Mair," enwau llawer mwy persain a thlws na'r ffurfiau estronol " Jaue" a " Mary." Bydd erthygl ddyddorol yn y rhifyn nesaf, ac apôl at blant Cyruru gan y Parch. L. Humphreys, uu o'r fìntai gyntaf o sefydlwyr ym Mhatagonia. Bhydd hanes plant Cymru'r Andes, a phlant yr Indiaid. Mae llawer o gwyno yng Nghymru fod yn rhaid i'r plant fynd dair milldir o ffordd i'r ysgol; cewch weld faint o ffordd sydd gan blant yr Andes, a sut yr ant. B. Gellwch gael cyfrol o waith y ddau fardd a ennwch,—Dafydd ab Gwilym ac Islwyn,—am ddei;naw ceiniog yr un, oddiwrth y Mri. B. E. Jones a'i Frodyr, Conwy. Oes, y mae gan sir Drefaldwyn restr hir o feirdd, o Owen Cyfeiliog at Ann Griffiths, a thrachefn at Mynyddog a Thafolog. J. Md oes gennyf gyfeiriad llawnach i'w roddi. O hyn allan bydd enw a chyfeiriad pob cyfansoddydd uwch ben ei dôn. Am ganiatad i'w hargraffu, anfoner at y cyfansoddydd. Os na bydd ei gyfeiriad ar ol ei enw, dengys hynny nad yw'n foddlawn i roddi caniatad ineb. Y mae llawer iawn o ganeuon bychain prydferth mewn ilaw. Arhosant tan amser cyfleus ; ni wiw imi gyhoeddi cân haf yn rhifyn y rhew a'r barrug. Yr wyf yn diolch i B. Goch o Wynedd, a lliaws nad oes gennyf le i'w henwau, am ganeuon. Un ran o addysg plant Cymru yw dysgu sylwi ar bethau o'u hamgylch, ar y planedau fry, ac ar adar o'n cwmpas. Y mae croesaw i erthyglau ár addysg. Carwn yn fawr gael ffrwyth profiad ambell athraw. Pell fo diraddio barddoniaeth o'm meddwl. Ond onid oes gormod ohonom yn feirdd ? Dylai Bygaid uchelgais ein bechgyn a'n merched gymeryd trem eangach. Edrychwch ar y darlun yr ochr arall i'r ddalen,—darlun o wehydd ym Mhen- machno yn gweu brethyn ar hen batrwm Cymreig. Oni wna i chwi feddwl y gellir cyfaddasu athrylith y Cymro at waith, at ddyfeisiadau gyfoethoga'r byd ? Hyd yn hyn, y mae athrylith Cymru, fel ei hafonydd, yn rhedeg yn wyllt. Dangos llwybrau defnyddioldeb yw amcan addysg y dyddiau hyn.