Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ELOD. Drwg igennyf nad oes fedalau Urdd y Delyn yn aros. yr Amryw. Pan yn anfon bywgraffìadau, gwnaer hwy mor fyr ac mor gynhwysfawr ag sydd bosibl. Ehaid cael rhyw neillduol- ion mewn plentyn cyn y gellir gwneyd ei fywyd yn ddyddorol i filoedd nas adwaen- ent ef. B. A. Trwy arholiad ym mis Awst y gellir mynd i wasanaeth y Llywodraeth yn yr India; trwy ddylanwad rhywun fedr ddweyd am danoch yr eir i'r un gwasanaeth yn yr Aifft a'r Soudan. E. S. Nid oes gennyf amheuaeth wrth ddweyd mai y pethau mwyaf swynol ysgrifennwyd am Natur yn Gymraeg yw erthyglau E. Morgan, sydd yn ymddangos yn Gymru yn ystod y misoedd hjn. Hoffwn yn fawr pe yr ymgymerai rhyw fachgen deallgar a dosbarthu Cymrtj mewn ardaloedd lle nad oes dosbarthwyr yn barod. D. E. W. (Treforis). Y golygydd cerdd- orol yw L. J. Eoberts, Ysw., Tegfan, Eussell Eoad, Rhyl. Anfonwch y tonau iddo ef. Ós byddant yn dderbyniol ganddo, cyhoeddir hwy. Y Eil. Drwg iawn genuyf mai ym Mehefln, yn lle ym Mawrth, y cyrhaedd- odd Owen Gruffydd chwi. Aeth y cyfrolau ar goll yn rhywle yn swyddfa'r rhwymydd, a bu helynt flin i'w cael. Gofelir ria ddigwydd. y musgrellni hwn eto. Y mae'r gyfrol arall,—Eobert Owen,—wedi ei hargraffu ers tro, ac yn barod i'w hanfon, ond fod y gyfrol arall ar ei ffordd. T. Gellwch anfon hynny a fynnoch ar gerdyn am ddimau. Ond os rhoddwch lythyr mewn amlen heb ei chau, a rhoi stamp dimau ar yr amlen, rhaid i mi dalu ceiniog. 0 hyn allan yr wyf yn gorfod gwrthod llythyrau heb eu llawn flaen- dalu, gan fod eu derbyn yn dreth rhy drom arnaf. Cassia. Gallwch gyfleithu faint fynnoch, a'i anfon i lyfr arall, os nad oes hawlfraint ar y llyfr. Os oes hawlfraint, dyíech ofyn caniatad yr awdwr.