Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ED. Ie, dodwy a wna seirff. Mae python, meddir, yng ngerddi y Belle Vue, Manchester, wecìi dodwy tua hanner cant o wyau. Y maent gymaint ag wy twrci, heb blisgyn, ac o liw gwyn budr. J. Md wyf yn gofyn i neb dalu am unrhyw ddarlun ymddengys, ac nis gallaf adael i ddarlun ymddangos ar yr amod fod rhywun yn talu am ei gerfio. Ni waeth gennyf fod golygyddion ereill yn derbyn arian at gerfio, yr wyf fì am fod yn anibÿnnol. Prydferthwch y darlun, a theilyng- dod yr ysgrif, a hynny'n unig, a ystyriaf fì. Yn aml iawn anfouir imi photograph a hawlfraint arno ; a chymer i mi fìsoedd weithiau i gael caniatad yr arlunydd. Os gofynnwch i arlunydd dynnu darlun i chwi, a thalu am dano, chwi bia'r hawlfraint arno. Ond os cŴb, prynnwch ddarlun mewn siop, nid oes gennych hawl i'w anfon i mi i'w roddi yng Nghymru'r Plant heb gennad yr arlunydd. Mair. Ebrill. Y mae rhai gwenoliaid yn dod mor gynnar a chanol Ab Tegid. Y mae'r gair'' Mi dala i chwi yn ffair Llangower'' yn eithaf cyffredin ym Mhenllyn. Ffordd o ddweyd na thelir ydyw; oherwydd nid oes ffair yn Llangower. Y mae dywediad cyffelyb ym mhob gwlad bron. Tad. Oes, y mae lluoedd o blant yn gadael yr ysgol ddyddiol, wedi bod trwy'r holl safonau, heb fedru ysgrifennu llythyr Cymraeg yn hanner cywir, ac heb glywed son am brif awduron Cymru. Nid ar y Llywodraeth y mae'r bai, ond ar reolwyr ysgolion ac ar yr athrawon. Lw. Ie, "blessed is he" yw "gwyn ei fyd." Llwyd, gwyn, a du yw Lloyd (Grey, Brown), Wynne (White), a Dee (BIack). Lleyn. Gwaith Owen öruffydd o Lanystumdwy jw'r gyfiol newydd yng Nghyfres y Fil. Gellir ei chael am 1/6 oddiwrth B. E. Jones a'i Frodyr, Argraffwyr, Conwy. Mam Sian. Dylai'r Lljthyrdy ymohebu â chwi yn Gymreeg ynglÿn âg arian Sian yn y Banc Cynilo.