Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CERDDORION. Dalier sylw nad oes gan y golygydd hawl i roddi caniatad i ail argraffu tôn. Anfoner at y cyfansodd- ydd, y mae ei enw bob amser uwchben y dôn. L. y Bryn. Anfonwch at Mri. Hughes, Gwrecsam. Os oes ol rifynnau Cyjiru'r Plant i'w cael yn rhywle, ganddynt hwy y maent. Sylwer fod "Hwiangerddi Cymru" yn barod i'r wasg, gyda deuptain o ddarluniau prydferth gan Miss Winifred Hartley. Nis gellir cyhoeddi cyn cael pum cant o enwau. Tri a chwech fydd pris y llyfr,—anrheg swynol i blentyn. Anfoner enwau i O. M. Edwards, Lincoln College, Oxford. Gwelir un o'r darluniau lleiaf ar dudalen arall. Y mae cyfeillion o bob rhan o Gymru, ac o aml gartref Cymreig mewn gwledydd pell, wedi anfon casgliadau o hwiangerddi. Yn sicr, ni chafodd plant Cymru eu darlunio mor swynol erioed o'r blaen. T. R. Ie, ystoriau byrion, tuag un tudalen, gyda digon o ynni a dyddordeb ynddynt, sydd fwyaf derbyniol. Y mab amryw ddarluniau ysgolion, a chofîantau bychain, mewn Uaw; cant sylw yn ystod y mis hwn. Beirdd. Daeth llawer o ganeuon gwyl Dewi yn rhy hwyr i'r rhifyn diweddaf. Cedwir hwy hyd ddygwyl Dewi y flwyddyn nesaf. Mam Sian. Y mae gwaith chloroform yn un o'r pethau mwyaf bendithiol ddar- ganfyddwyd. Nid oes dim cystal ag ef at leddfu poen pan fo'r claf dan operation hir. Ond ni wyr neb eto paham, na pha fodd, yr effeithia arnom fel y gwna.