Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •x Sp5*- Nis gallaf broffwydo i chwi am yr haf nesaf. Yr wyf yn gobeithío y cewch eich dymuniad, sef haf mwy heulog nag a gawsom y Uynedd. Medr gwyddonwyr ddweyd beth fydd y tywydd ychydig ddyddiau ymlaen, ond nid llawer ychwan- eg. Anfonir i arsyllfa Greenwieh bell- ebrau o wahanol fannau o'r ddaear i ddweyd faint yw darlleniad y barometer. Felly, medrant broffwydo beth fydd cyf- eiriad y gwynt, pa un ai o'r gogledd a'r eira, ynte o'r de a'r gwlaw, y daw. Nid yw proffwydoliaethau'r hen almanaciau ond dychmygion, byddent yn dod yn wir ambell dro. Os proffwydwch y cawn wlaw ym mis Chwefrol, byddwch yn iawn fel rheol, oni fyddwch? " February fìll dyke," ebe hen air Seisnig. J. A. Parry. Y mae eich awgrym yn un amserol iawn. Paham y rhoddir enwau Seisnig yn enwau tai yng Nghymru, a hynny gan Gymry ? Y mae'r enwau Cymreig yn aml yn fwy persain a llawn meddwl,—" Hendre," " Hafod," "Cartref," "Min y Don," "Bodunig." Ond pa feddwl yn y byd 3ydd i " Wellington House" a " Nelson Villa?" Y mae yr un Dic Sion Dafyddiaeth wedi meddiannu ein trefydd hefyd; ac eto gymaiut yn well yw'r enwau Cymraeg sydd ar dafod y bobl na'r geiriau Seisneg sy'n ysgrifenedig ar gornelau'r heolydd. E. J. Diolch yn fawr am hwiangerddi sir Frycheiniog. dan gamp. Bydd gennyf gasgliad 0. Gellwch gael " Gwaith Islwyn" am gini o swyddfa y Mri. Hughes, Gwrecsam. Yn hou y mae "FyNhad." Y mae cyfrol fechan brydferth aralí wedi ei chyhoeddi yng Nghyfres y Fil; gellwch ei chael am 1/6 oddiwrth E. E. Jones, Argraffwyr, Conwy. Gwladgarol. Ie, yn yr ysgolion elfennol yn y trefi y gwneir brad yr iaith Gymraeg. Ond y mae gobaith cael golwg well ar bethau'n awr. Un o'r Ysgol. Na, nis gellwch broû na wisgai yr hen Gymry ddim am eu pennau oherwydd mai geiriau Saesneg yw "hat" a "cap." Gair Cymraeg yw crydd, gair o'r Saesneg yw tailiwr; a fuasech chwi'n casglu oddiwrth hynny fod y Cymry'n gwisgo esgidiau, ond nid dillad, cyn i'r Saeson ddod? Gair Cymraeg yw gwallt, gair tebyg iawn i'r Lladin yw dant (dens, dentem); a fuasech chwi yn rhesymu felly fod gan yr hen Gymry wallt cyn i'r Rhufeiniaid ddod, ond dim dannedd ?