Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. E, peth digon rhyfedd yw fod yr asyn, un o'r anifeiliaid mwyaf brenhinol ac anrhydeddus yn y dwyrain, mor ddianrhydedd yn ein gwlad ni. A sylwasoch chwi ar beth cyn ryfedded, sef fod y ci, prif gyfaill dyn yn y gorllewin, yr anifail mwyaf dirmygedig ac aflan yn y dwyrain ? " Ai ci yw dy was P " Ei nnig waith yn heolydd y dwyrain yw bwyta burgynod. Bon. Ydyw, y mae'n wir fod darnau aruthrol o rew, cymaint a mynydd weithiau, yn torri oddiwrth gyfandir rhew enfawr öreenland, ac yn noflo'n raddol i'r môr agored. Fel y daw yn nes i'r de, todda'n raddol, ac o'r diwedd diflanna'n lân ; disgyn y cerrig sydd ynddo i waelod y môr, ac ymgymysga ei ddwfr yntau â dwfr y môr. Bydd y mynyddoedd eira yn croesi cwrs llongau weithiau ar eu ffordd o Lerpwl i New York. Y flwyddyn ddiweddaf gwelodd un long fynydd o rew, ac arno yr oedd chwech o eirth gwynion (polar bears) yn cerdded yn brysur yn ol ac ymlaen, mewn penbleth fawr. Nis gwn beth fyddai eu diwedd, marw o newyn neu foddi. T. R. Diolch yn fawr am gân Helen Maud Waithman í'r ehedydd, lle y dywed fod angel blinedig wedi eistedd mewn cae yd ac wedi canu ei gân; clywodd y tywysennau yd hi, plygasant eu pennau mewn boddhad; clywodd y popi hi, a llygad y dydd, a bloâau'r menyn, a thrysorasant hi yn eu plygion; arhosodd y wiwer fel wiwer gerfìedig, daeth y llygod swil at draed yr angel i wrando ; ond ni fedrodd neb goflo'r gân i'w chanu ond yr ehedydd. A dyna pam y mae'r ehedydd yn codi wrth ganu,—mae'r gân yn ei thynnu tuag adre. Iestyn (Maentwrog). Buasai'n dda gennyf gael cyhoeddi yr englyn doniol, ond ni wiw i mi ganu udgorn fy misolyn fy hun. L. O. Fon. Nid oes gan yr un sarff amrant, y mae eu llygaid bob amser yn agored. Ond y mae gwisg dryloew dros y llygad yn amddiffyn iddo. 0. Tybed i mi anghofio cydnabod casgliad Owm y GUo at gof-golofn T. E. Ellis? Casglodd Miss Thomas, Ysgol y Oyngor, bunt; cefais hi cyn y dad- orchuddio. Anfonodd Mr. "W. D. Morgan, Gwynfryn, Ty Croes, Sir Gaerfyrddin, swllt, wedi dydd y dadorchuddio. Nid yw'r pwyllgor hamddenol wedi cyfarfod, pan wyf yn ysgrifennu, i orffen trefnu; ond deallaf y bydd yn dda cael arian, os oes rhywun heb anfon, i gael plethau haiarn o amgylch gwaelod y golofn, i fod yn ddiogelwch ac yn harddwch ychwanegol. Bodfabian. Mae'r darnau i'w hadrodd yn dderbyniol ìawn. Athraw. Cyhoeddir llyfrau ysgol dwy-icithog yn y swyddfa hon.