Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •x- •* RTHÜR. Dywedaf wrthych ryw dro sut'y maent yn medru proffwydo'r tywydd. Dyma fel y dywedodd Caledfryn am bob mis Ionawr,— Eira a gwlaw—awyr glir—a niwl oer Bob yn ail welir; Ni chawn, er maint achwynir, Fawr o haul, neu fore hir. Gwladys. Cewch hanes dadorchuddio cof- golofn T. E. Ellis, gan un o blant ysgol Llangollen, yn y rhifyn hwn. Mae hanes llawnach, gyda dau ddarlun mawr o'r dyrfa, yn Cymrtj Ionawr. Yr oedd y plant wedi casglu llawer, rhoddais bob swm gefais yn y banc. Mae rhai enwau i ddod yn y rhifyn nesaf. Plant Lleyn ac Eifionydd. Gorfod í mi adael amryw bethau at y mis nesaf, oherwydd diffyg lle. Ymysg y pethau hynny y mae darlun plant Pwllheli a chaneuon plant Rhostryfan. Y mae'n siomedigaeth fawr i mi orfod oedi ymddanghosiad caneuon plant Arfon; gŵyr J. R. Tryfanwy am galon plentyn. A. W. Mae'r penhillion i Drawsfynydd yn felodaidd iawn. ddangos ond un, yr hwn sydd braidd yn dywyll i grebwyll plant. Cânt oll ym- R. E. (Mardy). Rhoddaf eich " englyn byrfyfyr" i'r darlun o'r Gwyddel yn y cyffion a'r wydd yn y rhifyn ddiweddaf yn y ían yma,— " In the stocks without stocking—am 'i goesau; Mi gostiodd i'm chwerthin; Gweld yr wydd flwydd yno'n flin, Ar ei phegau ágor 'i phigin." O. Cyhoeddir gwaith Ben Bowen yn gyflawn gan ei frawd, Myfyr Hefln (4, Hermon Street, Treorci). Coron yw ei bris i danysgrifwyr. Sion y Bryn. Os am awr dawel, lawn o fyfyrdod melus am fywyd Cymreig ar ei oreu, darllennwch Gofiant y Parch. Evan Lewis, Brynberian (newydd ei gyhoeddi gan G. Rees, Aberystwyth, 3/6), gan yr athraw D. Morgan Lewis, M.A. L. ab J. Nid yw'n werth esbonio i chwi mai talfyriad o Rugby, Association, Matriculation, a nine o'cloch lectureyw "Rugger," " Soccer," " Matric," a"Niner." Niddefnyddir y talfyriadau hyn ond gan yr efrydwyr penwan yn unig, rhai rhy ddiog i feddwl yn glir ac i ddweyd geiriau'n llawn. Y mae eithriadau, ond y rheol yw na ddaw'r myfyrwyr glywch yn dweyd y geiriau hyn uwch bawd sawdl byth.