Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. A gennyf gael rhoi yn y rhifyn hwn ddarlun o blant Cymry'r Andes. Bro Hydref y galwant eu cartref newydd mynyddig. Edrychwch ar eu hwynebat^, a chydmerwch hwy â wynebau plant y Chüeaid sydd yn eu mysg. Onid oes prydferthwch gwareiddiad uchel ar eu pryd ? Y gwynebau tlysion meddylgar, —y mae hiraeth yn codi yn y galon wrth feddwl eu bod mor bell. Y mae diwygiadau crefyddol Cymiu, a'i chariad at lenyddiaeth, wedi rhoi tlysni meddwl a cheinder yr ysbrydol ar wynepryd ei phlant erbyn hyn. Bob. Y mae Uawer dull o ddal llwynog heblaw ei saethu. Y mae ar un o ysgwydd- au'r Aran " loch llwynog" Ue daliwyd llawer llwynog,— gelyn y gwyddau a'r ŵyn, —mewn amser fu. Adeilad crwn ydyw, heb ddrws ac heb do, ond fod y mur yn gwyro i mewn ar ei ben. Y tu mewn y mae cut gwyddau, a drws arno. Bhoddai y bugeiliaid wydd yn y cut, ac aent i lawr adref i gysgu'n dawel, gan wybod mai dymunol gan lwynog yw gwydd dew. Deuent yno yn y bore, a chaent lwynog, ond odid, yn methu mynd at yr wydd, a hefyd yn methu mynd allan. Ye wyf yn ddiolchgar iawn i'r plant am gasglu at gof-golofn T. E. Ellis. Y mae John Morley wedi ei dadorchuddio erbyn hyn. Saif ar Heol Fawr y Bala, gwelir hi rhwng y coed sydd ar yr heol hoimo. Hi yw'r gof-golofn brydferthaf yng Nghymru. Caiff y plant ei hanes, a darluniau ohoni, yn gynnar y flwyddyn nesaf. Os oes arian casgl heb gyrraedd, derbyniaf ef yn ddiolchgar. Yn y rhifyn nesaf bydd rhestr o'r pethau uewyddion,—erthyglau, hanesion, a -darluniau, - fydd yn rhifynnau'r flwyddyn newydd. A wnaiff y plant sy'n derbyn Cymru'r Plant ei ddangos i blant ereill, a gofyn iddynt ddod yn dderbynwyr? Os caf dderbynwyr newyddion, bydd yn haws i mi roddi ychwaneg o ddarluniau. Mr. H. Lloyd Williams, Afon Rhos, Llanrug, ysgrifennodd y "Tro doniol yn hanes fy mywyd," wobrwywyd yn Eisteddfod y Plant, Bethel. Y gyfrol newydd yng nghyfres y Fil yw Islwyn. Cyfrol brydferth o ganeuon Islwyn, oll ond dwy heb eu cyhoeddi o'r blaen, yw y gyfrol hon. Y pris i danysgrifwyr yw 1/1|; pris cyfrol unigol yw 1/6. Pan fydd amryw gyfeillion yn «ael eu cyfrolau gyda'u gilydd, ni chostiant fawr dros 1/- yr un. Anfoner at Ab Owen, Llanuwchllyn, y Bala.