Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. Mae'r Hydref mawr eî wywdra—yn gyfaill Cyn gofid y Qaea; Heddyw rhoes ar fedd yr Ha Ei dirion gawod eira.—J. R. Tryfanwy. pjîl N o Feirion. Bydd yn eithaf hawdd i chwi ddysgu Saesneg. Cymerwch ryw lyfr, " Eobinson Crusoe" neu " The Pilgrim's Progress," a geiriadur Cymraeg a Saesneg, a cheisiwch ddeall y llyfr goreu gellwch. Daw'n hawddach hawddach fel yr ewch ymlaen. Eeallai y geilwch gael lle i weithio, wedi dysgu darlleu llyfr Saesneg, gyda gweithwyr sy'n siarad Saesneg da. Neu cymerwch Feibl Cymraeg a Beibl Saesneg, a dar- llenwch hwy gyda'u gilydd. Dysgodd Ap Vychan Saesneg pan yn of uniaith ; gall pob gweithíwr wneud yr un modd, os medd egni a phenderfyniad. M. Ll. 1. Y mae hanes yr eneth o forwyn yn anfon ei rhodd at gofgolofn T. E. Ellis yn darawiadol iawn. Y mae'n ddiameu fod miloedd tebyg yng Nghymru yn awyddus am roi pe caent gyfleustra. 2. Ni wyddai plant Cymru Caernarfon welsoch yng nghastell y dre'f ddim am Lywelyn nac am Owen Glyndŵr, chwi ddywedwch. Nid ar y plant y mae'r bai, ond ar eu hathrawon. Tyf y plant î ddarganfod y cam wna eu hathrawon â hwy, ac i gashau eu coffadwriaeth. Bob.—Peth anodd iawn yw dofi llwynogod bach. Y maent mor gyndyn, ac mor ffymig, fel y byddant fárw o newyn cyn y bwytânt ddim o law y neb a'u carcharo. Er hynny, nid yw eu hanner ddofì yn beth amhosibl. Daliodd amaethwr, sy'n byw am y mynydd a mi, bedwar o lwynogod bychain. Methai yn ei fyw a'u cael i fwyta dim ; noethent eu dannedd, a cheisient frathu y llaw èstynnai fwyd iddynt. O'r diwecld, daliodd wningen fyw, a thafiodd hi i'w canol. Yswatiodd y pedwar i lawr o'i chwmpas am beth amser, heb syinud dim. Yna rhuthrasant ar unwaith ati, a lladdasant hi yn y fan. Creulondeb mawr oedd taüu'r wningen i'w canol, ond felly y gwnawd. Ymysg y llyfrau sy'n aros cael sylw y mae " Cofìant a Llythyrau y Parch. E. Jones, Llanllyfni," gau Dr. Owen Davies (Llangollen, W. Williams) ; " Oes a Owaith M. D. Jones, Bala," gan Dr. E. Pan Jones (y Bala. H. Evans); " Gwlad yr Iesu," gan Anthropos (Caernarfon, Swyddfa'r Wasg G-ymreig). Drwg gennyf na ddaeth y bennod ar Capten Cook yn ddigon buan i'r rhifyn hwn. Mae wedi ei chysodi, a gall y plant fod yn sicr y cânt hi yn y rhifyn nesaf. R. R. Mae ambell emyn byrr, gwlithog fel hwn yn dderbyniol iawn. 0. Gwelais "egwan crynedig" yn air Cymraeg amjelly; a " Uymru llwyd " am bhnz mange.