Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. •X ED. Peth difyr iawn yw darllen hanes teith- iau yng ngwlad y Beibl. Ond, fel y dywedwch, y mae teithwyr yn aml yn gorfod dioddef sarhad a cholled oddiwrth y Mahometaniaid sydd yn y fro gysegredig yn awr. Ond eto, beth feddyliech chwi? Yr oedd Twrc yn gwerthu carpedi ym Mangor y mis diweddaf. Poenid ef, sarheid ef, gwasgerid ei garpedi. Gan bwy? Gan fechgyn ieuainc a phlant gwlad efengyl. Gwylltiodd, yn ddigon naturiol; tynnodd ei gyllell, a thrywanodd un o'i boenydwyr. Pan ddaeth yr achos i lys cyfraith, profwyd fod un, o leiaf, o'r llanciau yn feddw. Beth bynnag ellir ddweyd am y digred sydd yn awr yng Nghaersalem a Nazareth a Hebron, nis gellir dweyd am yr un o honynt y peth jpST ddywedwyd am lanc ym Mangor,—ei fod wedi sarhau dieithr-ddyn pan dan effaith diod feddwol. Llyfr darllenadwy a swynol yw llyfr newydd Anthropos,—Oriau gyàag Enwogion. Dywedir mai'r Saeson yw'r uuig bobl sy'n mynnucadw eu hiaith i ba le bynnag yr ant, a pha le bynnag y sefydlant. Cerddorion. Cyhoeddir amryw ddarnau cerddorol i blant, megia oratorio " Mebyd Joseph," cantata " Gwaredwr y Plant," a llawer ereill, gyda geiriau Cymraeg gan feirdd o fri, gan y Mri. Bayley a Ferguson, 54, Q,ueen Street, Glasgow. Gwelwch ddernyn yn y rhifyn hwn o ddarlunîad y Parch. Eobert Evans o'r ddaeargryn ym Mryniau Casia. Y mae'r llyfr drwyddo yn ddyddorol iawn. Itor. Cewch hanes dinasoedd ereill cyn hir. Y mae rhai o blant TJrdd y Delyn wedi cymeryd eu graddau ym Mhrifysgol Cymru. Hawlfbaint Tonau. Dealler nad yw'r golygydd yn meddu hawlfraint ar y tonau sy'n ymddangos bob mis. Felly, nid yw ond gwastraff ar amser anfon ato am ganiatad i'w hargraffu mewn llyfrau neu raglenni cyfarfodydd; anfoner at gyfansoddwr y dôn, efe a'i pia. Yr wyf yn deall fod y cyfeiriad roddir ynglŷn â'r dôn yn ddigon.