Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. YW y llythyren fwyaf anadnabyddus i blant Cymru. Ond y mae ambell blentyn yn medru ei thorri yn dda, fel y dengys y llythyr gwahoddíad sydd yn y rhif- yn hwn,— " Pob tin sydd mor luniaidd, 'n enwedig y Q, Nes bron y meddyliwn ei fod ef yn fyw." Y mae y plant hynaf a mwyaf meddylgar, yr wyf yn sicr. yn myfyrio uwchben erthyglau Sigma. Osmyn- nent wybod ychwaneg am destyn dyddorol erthygl y mis hwn, sef Cyf nod y Rhew Mawr, cânt erthygl lawn yn rhifynnau Cymiw am Gor- ffennaf ac Awst, gyda dar- luniau, gan y Parch. D. Lloyd Jones, M.A., Llan- dinam. Gŵyr llawer am fedr Mr. Jones i draethu gwirioneddau mawr (rwydd- oniaeth; mae ei erthyglau yn ein hadgofìo am ddarnau o farddoniaeth Islwyn,—ac eto gwirionedd difrif, nid dychymyg beiddgar, sydd yn eu llenwi. Bob. Y mae magnel yn Southsea all daflu pelen agos i bymtheg milltir o bellder. Un o'r gynnau sy'n amddiffyn porthladd pwysig Portsmouth ydyw. Plant Lerpwl. Bydd darlun da a chlir o dyrfa ohonoch yn y rhifyn nesaf. Cof-Golofn T. E. Ellis. Yr wyf ynddiolchgar iawn i'r plant am gasglu, ac i bawb sy'n anfon eu symiau i mi. Ceir rhestr arall yn y rhifyn hwn. Deallaf fod y gerfddelw wedi ei goríîen ac yn barod i'w gosod yn ei lle. Y mae pobl y Bala a'r ardaloedd cylchynol yn symud ymlaen yn brysur gyda rhoi marmor yn ei le i ddal y golofn. Byddaf yn gofyn i'r plant gasglu hyd nes y byddis wedi gorffen talu am y golofn. Glyn. Gwelwch fy mod yn rhoi cwmni ehedydd i chwi y mis hwn.