Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. BLANT, un o'r pethau mwyaf dyddorol yw gweled wynebau eu gilydd. Mae amryw ddarluniau yn llaw y cerfiwr, ond y mae arnaf ofn fod rhai o honynt ychydig yn aneglur. Ehaid cael y dull amrantol (ai dyna'r Cymraeg am instantaneous process ?) at blant bach, gwyddoch bethau mor winglyd ydynt. Gofaler am y focus hefyd ; os na fydd y darlun yn berffaith glir, mae bron yn amhosibl cerfio'r darlun yn foddhaol. Gofaler am y developing wedyn. Ni raid trafferthu cymaint gyda'r toning, ac nid oes eisiau gosod y siher-print neu'r platinotype ar gerdyn. Maddeuer gymaint o eiriau dieithr a roddais ; ni wyddai'r hen Gymry ddim am y gelfyddyd hon. Beth ydyw " Uadd dafad ddall" o chwith? D. J. Diolch. euon digon syml i'r dderbyniol bob amser. Y mae niawr angen am gan- plant ieuengaf. Maent yn B. Cyhoeddir Bequiem fechan darawiadol,— " Cain Beroriaeth gwyna'n brudd,"—gan J. H. Boberts, Mus. Bac, er cof am y diweddar Dr. Joseph Barry. Cewch hi oddiwrth yr awdwr, 159, Grove St., Liverpool; 4c. yn yr Hen Nodiant, 2g. yn y Sol-ffa. i M. Bich. Yr wyf yn disgwyl yn fawr y medraf roddi darlun a hanes plant Sychtyn, sir Fflint, yn y rhifyn nesaf. 0. Y llyfr nesaf yng nghyfres y Fil yw Ap Vychan. Y mae hunan-gofiant yr hen bregethwr melus hwn, a'i farwnadau am ei chwaer a'i ferch, gyda'r pethau mwyaf toddedig yn yr iaith. Y mae saith o gyfrolau yn barod yn awr ỳn y gyfres hon,—Dafydd ab Gwilym, Huw Morus, Beirdd y Berwyn, Goronwy Owen (dwy gyfrol), Ceiriog, Ap Vychan. Fris 1/lf i danysgrifwyr, 1/6 trwy lyfrwerthwyr. I'w cael oddiwrth Ab Owen, Llanuwchllyn, y Bala. Ll. Y mae'n bur debyg fod llawer o ddarllenwyr yn awyddus i gael llyfr newydd Iolo Carnarvon, sef " Breuddwydion y Dydd." Cyhoeddir ef am 3/6, yn llyfr darluniadol prydferth, pan geir digon o enwau. Ni raid dweyd y bydd . yn drysor o werth arhosol, ac y mae'n ddiau y mynn y llengarol ei ychwanegu at ei lyfrgell. Anfoner enwau i 0. M. Edwards, Llanuwchllyn, y Bala.