Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. WAITH da oedd cyfìeithu "Dinas heb ynddi Deml" Henry Drummond.* Y mae'r meddwl yn iach, yn adfywiol, ac yn darawiadol. Y mae'r cyfieithiad yn darllen mor naturiol a hyfryd a'r gwreiddiol. G. W. F. Diolch am y darluniad byw o robin goch. Rhoddir ef yn rhifyn Tachwedd, i ennyn cydymdeimlad â'r canwr bach ffyddlon yn y gauaf nesaf. L. R. Yr wyf yn casglu'r hwiangerddi Cymreig. Cefais gasgliad da oddiwrth Mr. E. Ogwen Williams o Aberdâr. Casglwyd hwy iddo gan blant ei ddosbarth Cymraeg yn yr Ysgol Sir. Cefais lawer o rai gwaelod Ceredigion, hefyd, oddiwrth Mr. E B. Morris, Llanbedr. Y mae y rhain ac ereill wedi eu hanfon i Miss Winifred Hartley i wneyd darluniau i'w gosod allan yn y dull mwyaf swynol i blant. Ni raid dweyd wrth y cyfarwydd fod Miss Hartley wedi ennill enwogrwydd yn y gangen hon o arluniaeth. Y mae digon o wir ddych- ymyg yn ei hamlinellau syml tarawiadol. Tad Harri Bengoch. Y mae gennyf fìnnau blant sy'n credu mai Llangollen yw'r lle hynotaf yn y byd. Yno y mae yr ''hen wraig yn gyrru gwyddau" yn íbyw. Yno hefyd y gwelwyd golygfa ddyddorol ryw dro, sef,— " Mi welais ddwy lygoden Yn cario pont Llat gollen. Yn ol ac ymlaen ar hyd y ddôl, Ac yn ei hol drachefen.'' Cofgolofn T. E. Ellis. Derbyniais £2 lOs. 8c. oddiwrth blant Bethel, Arfon; yr wyf yn diolch i'r athraw, Gk R. Hughes, am ei gynorthwy caredig. Derbyniais hefyd 7/7 oddiwrth blant Pontrhythallt, Arfon ; yr wyf yn ddiolch- gar iawn i'r ysgrifennydd a'r Trysorydd, Mri. W. R. Hughes a W. T. Williams. Pwy eto rydd blaut ardaloedd ereill ar waith P Bydd yn rhywbeth i blentyn gael dweyd ei fod wedi helpu i godi y gofgolofn hon. Rhaid ymaflyd yn y fraint ar unwaith yn awr, neu bydd yn rhy hwyr. Ceir yr enwau ymhellach ymlaen. Llyfrau Newyddion. Bydd nodyn ar y llyfrau hyn cyn hir,— Llyfr newydd ar Awstralia. Gan y Parch. J Ceredig Davies, cenhadwr. Ystori ryfedd Agnes a'r Golomen Wen. Parch. Z. Mather. Pur Bleserau Bywyd. Cyfìeithiad o waith Arglwydd Avebury. Yng Ngwlad y Gwyddel. Hanes teithiau, gan J. M. Edwards, M.A. * " Y Ddinas heb ynddi Deml." Cyf. gan Arthur Hughes, Coleg Dewi Sant. Amlen, 56 tud., 6ch. Hughes, Gwrecsam.