Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ISS GWLADYS MARY MORRIS, merch y Parch. R. R Morris, Blaenau Ffestiniog, euillodd gadair Eisteddfod Gadeiriol Myfyr- wyr Coleg Prifysgol Cymru. Dyma'r ail dro, mi a gredaf, yn hanes Uenyddiaeth Cymru. i ferch ennill cadair mewn eisteddfod- Cofìa rhai o'm darlleuwyr mai Miss Morris oedd aelod cyntaf TJrdd y Delyn. Pwy ŵyr faint o enwogrwydd enillir gan blant yr TJrdd hon ? Ý maent yn awr yn tynnu at ddwy fìl o nifer. Yn y rhif yn diweddaf y mae dau ddarlun i egluro diwydiannau Cymru, sef cludo. Yr heu ddull oedd cerbyd a cheffylau,—ceir darlun i egluro y dull gwlad hwn o gyffìniau Ceredigion a Phenfro. Y dull newydd yw ffordd haiarn a Uong ager ; rhoddir darlun o gwrr o orsaf Aberdyfì i egluro hwn. Yr oedd mastiau agerlong i fod yn y golwg dros wŷr y ffordd haiarn a'r morwyr, ond yr oeddynt yn rhy wan i ymddangos yn y darlun. E. E. Nid oes un o fedalau Urdd y Delyn yn aros. Ni wneir rhai ereill yr un fath a'r mil cyntaf. Yr oeddynt o gynlluniad cerfiunydd enwog iawn, a chwyd eu gwerth bob blwyddyn ; felly cadwed eu perchenogion hwy. Meddyliaf am eich awgrym i gael rheolau Urdd y Delyn ar gerdyn i'w rhoddi ar fur ystafell. Yn y rhifyn nesaf ceir y gyntaf o ysgrifau swynol ar olygfeydd gwlad y Beibl, gan y Parch. W. 0. Powel, Cysgod y Mynydd, Aberaman. Wele ddarlun o rai o blant ereiU Corris yn yr un rhifyn a phlant Carno. Cwyna'r Ueill, mi glywais, na ddaeth eu Uun aUan Uawn cystled ag y disgwyl- ient. Yn fy nghopi i, nid oes bosibl iddynt fod yn weU. Sam. Gwelwch fy marn am y for-forwyn yn y rhifyn hwn. wyf yn camgymeryd. Yr wyf yn sicr nad Y mae adeg dadorchuddio cofgolofn T. E. Ellis yn prysur neshau. Da gennyf gael cydnabod un swm eto, sef Pobl ardal Llanrug, Arfon .. £1:2:0 Casglwyd y swm hwn gan ddwy chwaer garedig, Miss S. a Miss L. G. Roberts, Fron Helyg, Llanrug. Pwy ddilyna eu hesiampl ? A gawn ni help ardaloedd ereill i ddadorchuddio'r gofgolofn brydferth hon heb ddyled arni? Pan welir hi ar Stryd Fawr y Bala, a gaf fì le i ddweyd fod plant Cymru, y rhai y gwnaeth T. E. Ellis gymaint er mwyn eu haddysg, wedi gwneyd eu goreu i dalu am dani?