Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. 3) RWG gennyf fod y bennod ar fordeithiau Capten Cook, a phennod newydd Sigma ar wyddoniaeth, wedi cyrraedd yn rhy ddiweddar i gael lle yn y rhifyn hwn. Mae amryw'Jo enwau newyddion Urdd y Delyn yn cael eu gadael tan y rhifyn nesaf. Y mae cyfarfodydd blodeuog yr TJrdd wedi eu hail gychwyn yn Llanafan, Ceredigion; bydd eu hanes yn y rhifyn nesaf. L. E. W. Diolch yn fawr am hanes y "Forget me Not." Mae hanesion bychain tlysion a tharawiadol fel hyn yn dderbyniol iawn. Y mae amryw lyfrau dyddorol wedi eu cyhoeddi yn ystod y mis diweddaf. Un o'r llyfrau mwyaf byw ddarllennais er ys tro yw bywgraffiad y cenhadwr William Lewis gan y Parch. Griffith Ellis.* Rhydd aml gipdrem äarawiadol ar egni hunan-aberthol y cenhadwr llwyddiannus, ac ar yr ymdrech rhwng hen dduwiau'r tywyllwch a Duw'r goleuni ar Fryniau Casia. Tarawiadol iawn hefyd yw llawer o'r darnau yn llyfr bychan newydd Ceridwen Peris,—" Adroddiadau a Dadleuon i blant " t Byth er pan ddarllennais "Llygaid Dydd wrth ddrws y nef " (mae y gân yn y casgliad hwn, mor newydd ag erioed), yr wyf yn craffu ar bopeth welaf o waith yr awdures dalentog hon. Wele lyfr dadleuon ac adrodd- iadau o waith golygydd "Trysorfa'r Plant" hefyd, sef " Y Dirwestwr Bach."J Pa raid sydd i awdwr hwn am ganmoliaeth neb ? Ap Bethel. Nid oes gennyf hawl i gyhoeddi darlun o gyhoeddiad arall. Nis gellid ei gerfio ychwaith. Arthur. Diolch; ond y mae'r ystori yn rhy adnabyddus. Gwelais hi yn Gymraeg, hefyd, o'r blaen. Y mae eich cyfìeithiad yn gywir ac yn dda iawn. * William Lewis, Khasia. Gan y Parch. G. Ellis, M.A. Llian, darluniau, 176 tud. 1/- Gwrecsam, Hughes a'i Pab. + Adboddiadau A Dadleuon i Blakt. Gan Ceridwen Peris. Amlen, 84 tud., Gc. Caernarfon, D. O'Brien Owen. t Y Dibwestwe Bach. Gan y Parch. T. Levi. Amlen, 84 tud. 6c. Caernarfon. D. O'Brien -Owen.