Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. ED. Nid oes ar yr Esquimaux fwy o anwyd na chwithau. Gwisgant eu hunain mewn crwyn. Daw miloedd o grwyn morloi i Lundain bob blwyddyn o'u gwlad. Gwerthir hwy wrth y cant i'r uchaf ei geiniog. Yna eir a hwy i ddau ŵr,—nid oes ond dau fedr wneyd y gwaith,—i'w gorffen, i dynnu'r blew gwynion ohonynt, ac i ddyfnhau eu lliw. Y mae un got o grwyn fel hyn yn costio o ugain i gan punt. Nid yw '' electric seal'' yn groen morlo o gwbl; peth wedi ei wneyd o grwyn cwn- ingod yw. Gwell gennyf roi yr enw priodol a'r trigle na ffug enwau dan bob erthygl a chân. Bydd yn ddyddorol iawn gwybod yn y dyfodol beth a ddaw o'r rhai sy'n ysgrifennu; bydd yn dda gan rywun droi i hen gyfrolau Cymru'r Plant a gweled cân gyntaf rhyw fardd enwog, neu draethawd cyntaf rbyw bregethwr, nofelydd, cyfreithiwr, meddyg neu farsiandwr o fri. Ond ni ŵyr neb pwy yw " Cymro," " Ieuanc," " Mab y Mynydd," &c. Bob. Bydd lluniau llawer o gregin yn y rhifynnau nesaf. C. Owen. Daeth hanes yr ieir yn rhy ddiweddar i'r rhifyn hwn. Plant Llanbrynmair. Bydd dariuniau ohonoch yn y rhifyn nesaf. Bydd darluniau o leoedd a gwŷr enwog eich ardal yn rhifynnau Cymru y flwyddyn hon hefyd. S. A. Ni chyhoeddir unrhyw gyfarwyddiadau ynglŷn â rheolau Urdd y Delyn, ond y rheolau. Gadewir i bob ardal ddilyn ei chynllun ei hun, a phob aelwyd o ran hynny. Dull Ysgol Sul, i astudio rhyw fabinogi fel " Breuddwyd Bhon- abwy " neu'r diarhebion, neu i ddysgu canu alawon Cymreig, yw un dull da. Plant Cymru. Faint ohonoch sydd yn casglu at gofgolofn T. E. Ellis, i ennill y medal ? Y mae'r cerflunydd yn prysur orffen ei waith. Cerddorion. Am ganiatad i argraffu tonau, anfoner at eu cyfansoddwyr. Cymerer fy nghaniatad i heb ei ofyn ; ond dyweder o ba gylchgrawn y codwyd y tonau. " J. P. Jones, Tynyffridd, Upper Corris. As the writer of an article which appeared in Cymru'r Plant for August, 1901, under title " Gwrhydri Mam," I beg to state that in writing such article I did not refer to you in any way, never having had cause or justification for making any insinuation against you in your business or otherwise, and I am willing that this shall be published at my expense in the next issues of the Cymru'r Plant, Cambrian News, and the Negeaydd, and to pay Mr. W. P. Owen, of Aberystwyth, your solicitor, his costs in the matter. Yours faithfully, Edward Eyans."