Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. OB. Nid wyf yn blino ar eich cwestiynau, gofynnwch faint a fynnoch. Lliw llwch yw Uiw ''khaki." Dyna yw llíw dillad ein milwyr pan yn ymladd mewn gwledydd poeth llychllyd. Yn yr hen amser gwneid gwisg y milwr mor amlwg ag oedd bosibl; yn awr gwneir hi yn wisg na thyn sylw, fel nas gaíl y saethydd ei gweled o bell. Ceb.ddok.ion. Gwir fod gan olygydd Trysorfa'r Tlant hawl i roddi cennad i ail argraffu tôn, gan ei fod ef yn dod i feddiant o'r hawlysgrif,—mae hynny'n amod i'r dôn gael ymddangos. Ond am danaf fl, nid wyf yn cael hawlfraint y dôn, dim ond ei benthyg. Felly, nac anfonWch ataf fi am hawl i gyhoeddi tôn; anfonwch at yr awdwr, gwelwch ei enw uwch ben y dôn. Neu anfoner llythyr ato i mi, ac anfonaf finnau ef yn ei flaen. Yr wyf wedi dweyd hyn gymaint o weithiau fel y fhaid i'm cyfeillion caredig faddeu i mi am fethu ateb eu Uythyrau. Cofier fod y gwaith gwir angenrheidiol ynglýn â'r cylchgrawn hwn yn gofyn ysgrifennu llawer o lythyrau bob dydd,—arbeder ni pan fydd yn bosibl ac yn hawdd. Plant Bryneglwys. Yr wyf wedi cael darlun ohonoch eto, mwy o faint na'r llall, a'ch hanes yn llawn iawn. Yr oeddwn wedi trefuu iddo fod yn y rhifyn hwn; ond, er siom i mi, nid oedd hynny yn bosibl. Y mae'r darlun wedi ei gerfìo yn gampus, a daw yn rhifyn cyntaf y gyfrol newydd. Ymysg pethau ereill oeddwn wedi drefnu ar gyfer y rhifyn hwn y mae cân dyner am blant gan Gwili. Ond byäd digon o le yn rhifynnau y flwyddyn nesaf, ac yn enwedig i ddarluniau. Ymysg darluniau sydd wedi eu paratoi y mae deuddeg o wyneb-ddarluniau tlysion i ddangos ueuddeg o ddiwydiannau Cymru, megis pysgota, cneifìo, hollti llechi, toddi haiarn, bugeilio, &c. Un hoff o ddarllen. Dafydd ab Gwilym, Goronwy Owen (dwy gyfroi), a Cheiriog sydd wedi ymddangos yng nghyfres swllt Ab Owen. Bydd Huw Morus allan cyn y Nadolig. Gwnai'r pum cyfrol anrheg Nadolig brydferth a derbyniol i gyfaill. Sian. Mae'n hen gred fod canfod cneuen ddwbl yn beth lwcus. Yn Lloegr bwyteir un ohonynt, a theflir y llall dros yr ysgwydd. E.M. Tlawd oedd cartref Goronwy Owen, ond yr oedd ei dad yn fardd. Yn ystod y flwyddyn bu farw Mr. R. Hamer, prif argraffydd swyddfa y Mri. Hughes, ac un fu'n gofalu â chariad manwl am wedd allanol Ctmru'r Plant er pan symudodd y cylchgrawn o Gaernarfon i Wrecsam. Bu Mr. Hamer mewn cysylltiad â rhai o'r swyddfeydd wnaeth fwyaf dros lenyddiaeth Cymru,— yn Llanrwst, yn Ninbych, ac yng Ngwrecsam. Mae gennyf y parch dyfnaf i'w goffadwriaeth,—yr oedd mor fedrus, mor drylwyr, mor brydlon, mor garedig. Bu farw yn sydyn, ynghanol y gwaith yr oedd ei galon ynddo.