Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. BOB. Mae pob gwaith yn anrhydeddus, ond ei wneyd yn iawn. Y dandi, sy'n gofalu fod ei ddwylaw'n feddal, sy'n ddirmygedig. Tincer oedd John Bunyan, gweydd oedd Livingstone, naddwr cerrig oedd Hugh Miller. A ydych yn meddwl y buasai un ohonynt hwy yn meddwl fod eisiau gwadu eu crefft? Wil o'u Waen. Ydyw, y mne ein llongau diweddaf,—yr Irresistible, y Bulwarlt, a'r Yenerable,—wedi costio tros filiwn o bunnau yr un. Y mae tair ar ganol eu gwneyd yn awr,—y King Edward, y Dominion, a'r Commonwealth,— dywedir y costia pob un o'r rhain filiwn a hanner. Hynny ydyw, pe buasai raid talu am bob un o'r rhain trwy danysgrifìo cyhoeddus, buasai raid i bawb yng Nghymru roi puut er mwyn talu am un ohonynt yn unig. Un hbb wyboj). "Cockney" ydyw'r enw ar rai sydd wedi eu geni yng nghlyw clychau Eglwys Bow, neu " St. Mary de Arcubus," yn Llundain. Cantouion. Anfoner tonau i L. J. Roberts, M.A., Tegfan, Rhyl. Os anfonir hwy i 0. M. Edwards, gallant fynd ar goll am wythnosau a misoedd, os nad am byth. T. E. Hysbysa Miss J. A. Richards, Machine House, Hirwain, ni fod "Y Groes Ddu " yn un o rifynnau " Trysorfa'r Adroddwr." Gellir ei gael oddiwrth D. L. Jones (Cynalaw), Briton Ferry, am ryw ddwy geiniog neu dair. Diolch i'r cyfeillion ereill anfonodd hysbysrwydd. Bydd enwau y rhai sy'n anfon at gofadail Thomas E. Ellis yn rhifynnau Cymiiu. Anfonodd Cymro o Affrica swm drosto ei hun a thros ei ddau blentyn bach. Y mae am iddynt deimlo, os byth y dont i'r Bala í weled y gofgolofn, fod ganddynt hwy ryw ran fectian yn ei chodi.