Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. RWY ddiffyg gofal ar fy rhan i, gadawyd enwau aelodau newyddion Ilrdd y Delyn allan y mis hwn. Ceisiaf beidio anghofìo yr enwau derbyniol hyn yn rhifyn y mis nesaf. Oherwydd diffyg lle, gadawyd hyd y rhifyn nesaf,—Martinique, Ysgwrs rhwng bachgen a chenhadwr, Y Sipsiwn, ac amryw erthyglau. Sam. Mae hwiangerddi hen yn dra derbyniol. Mam Gymreig. Gofynnais eich cwes- tiwn i un o wragedd y Boeriaid fu yn y gwersyll amddiffyn am fìsoedd. Dywedai y byddai'r milwyr Prydeinig yn gwneyd lai o fwyd er mwyn i wragedd a phlant y Boeriaid gael digon. R. Rhaid i bob cofìant fod yn fyr iawn. Ni wiw gob- eithio y caiff ymddangos os bydd dros hanner tudalen. Anfonner tonau i L. J. Roberts, Ysw., Tegfan, y Rhyl. 0. Byr, cryno, tarawiadol,—dyna nodweddion pob erthygl a chân wyf fi a phlant Cymru yn ddymuno gael. Da gennyf weled fod plant gwahanol ardaloedd yn dechreu casglu at gof- golofn Thomas Ellis, er mwyn cael cofgolofn deilwng o un o'r bechgyn goreu fagodd Cymru erioed/ ac er mwyn hefyd ennill medal i gofìo am dano. Nid yw'r pwyllgor wedi argraffu llyfrau na chardiau casglu. Nis gwn a wna hynny. Ond prun bynnag a wna ai peidio, mynned y plant lyfr bychan eu hunain, a rhoddent enwau'r cyfranwyr yn hwnnw. Mona. Derbyniol. Mae'n ddestlus a melodaidd iawn. T. IJ. 1. Nis gwn ym mha le y gellwch gael y darn i'w adrodd a ennwch, sef " Y Groes Ddu." A all rhywun ein hysbysu? 2. Pwy ŵyr a yw y gog yn un 'ö'r saith cysgadur ? Yn y rhifyn diweddaf gwelir dau wall yng nghân Ab Uthur i'r gôg. Yn lle "gra" yn y llinell gyntaf darllenner "grai;" ac yn lle "dduo" yn nhrydedd llinell y nawfed pennill darllenner " suo."