Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. AN Y GAER. Dyffryn y Ganges, a'r wlad rhyngddo a mynyddoedd yr Himalayas yw cartref y paun. Yn yr nn wlad hefyd y cartrefa'r teigr a'r eliffant. Bydd ychydig o hanes rhan o'r fro hon yn y rhifyn nesaf. D. E. G. Bydd plant Cwm Clydach yn y rhifyn nesaf. G. Bydd erthygl ddyddorol iawn, gyda lliaws o ddarluniau, ar y wlad o amgylch tarddle y Rhondda yn rhifyn nesaf Cymbu. Elfed. Diolch am y darnau o waith Ap Yychan. Byddwn yn dra diolchgar i ereill am anfon i mi unrhyw beth a f eddant o'i waith. Llenouion. Hoffwn alw eich sylw at y llyfrau newydd- ion hyn,—"Life and Times of Griffith Jones of Llan- ddowror " (Parch. David Jones) ; " Y Dyn Ieuanc" (Parch. O, L. Roberts); " Horae Solitariae " (Edward Thomas) ; "Gwlad y Gân" (T. Gwynn Jones); "Tlysau Beuno;" '' Gardd Eurog '' (Parch. R. Eurog Jones) ; '' Oriau Hefìn'' (David Bowen); " Duwinyddiaeth " (Dr. Cynddylan Jones). Y Gystadleuaeth. Y goreu yw Thomas Parry, 5, Pump Street, Mill Bank, Caergybi; yr ail, Miss Elizabeth E. Edwards, Trewenfron, Cilgerran. Anfon- wyd y wobr gyntaf, felly, i sir Fon; a'r ail i sir Benfro. Cebddouion. Derbyniais, gyda diolch, goron oddiwrth P. W. Phillips, o Gwm Twrch Isaf, am fenthyg y dôn "Telyn Seion," ac anfonais hi ar unwaith i'r ^cyfansoddwr. Byddai yn well gennyf pe'r ymohebai cerddorion ynghylch tonau yn uniongyrchol â'r cyfansoddwyr. Gofelir am roddi eu henwau a'u cyfeiriadau wrth eu tonau. ' Maib y Bryniau. Fel arall y mae yn ein ty ni. Wrth geisio darlunio rhyw wraig inni, darlunia'r bachgen ryw hynodrwydd. yn ei gwyneb ; darlunia'r eneth ■liw rhyw ddilledyn neu ryw flodau ar ei het. Gwir fod y bachgen yn gyrru ar ei saith, a'r eneth heb fod yn bedair. Bon. Md yw pob amddifad yn ieuanc iawn. Yr oedd dau fab amddifad yn Orakovica, Croatia, ychydig amser yn ol, a'u hoed yn 100 a 98. Yr oedd eu mam newydd farw, yn 120 oed.