Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. EWCH y feirniadaeth ar y traethodau yn y rhifyn nesaf. Yr wyf wedi methu penderfynu hyd yn hyn. Yn yr un rhifyn bydd tasjç o natur newydd, ond un wrth fodd plant ymchwilgar. D T. ac ereill. Anfonaf y tonau yu eu blaenau Mr. Roberts pan gaf hamdden. Byddai yn llawer o hwylusdod pe 'r anfonai cyfansoddwyr donau yn uniongyrchol i L. J. Roberts, M. A.., Tegfan, Ehyl. Ap Dafydd. Da gennyf gael ambell gân neu hanes o sir Benfro. Yn y nesaf os bydd lle. Rhaid aroa am ystranciau y Ddau Hogyn Rheiny tan y rhifyn nesaf. Billie Bach. Yr wyf yn ddiolchgar iawn i chwi am eich ffyddlondeb. v'"' Daw cryn lwyth o ganeuon imi oddiwrthych bron bob Sul, ond nid oes erennyf amser i ateb llythyrau, nac i ysgrifennu beirniadaeth. Byddaf yn meddwl yn aml wrth ddarllen eich gwaith ei fod yn rhy brudd a henaidd i'r plant wyf fi yn adnabod. Cofiwch fod golygyddion heblaw fi, a chylchgronau ereill. Ni hoff wn gael pob peth, dylent hwythau gael eu rhan. Yr wyf yn rhoi un o'ch caneuon yma,— GWAITH Y PRYDYDD IEUANC. Mae gwaith y prydydd ieuanc 0 fewn y llinell hyn, Cewch ganddo fwy na hyna Wrth brynnu papur gwyn. Ond os yw ef yn fychan, Ai feddwl braidd yn wan, Wwnewch ddweyd wrth William Am wneuthur iddo gân. [ Morgan Ac mi garwn weld y prydydd Yn byw am lawer dydd, Fel galíaf ddal i ddisgwyl Daw ef i Bontypridd; Ond os yw Duw yn foddlon, I mi ddweyd fel y mae, Mi wn fod Duw wrth ddynion Yn dal i drugarhau. Sylwch mai anaml iawn y caiff yr un bardd, oddigerth rhai o'n beirdd goreu, ymddangos ddeafis yn olynol ar y dalennau hyn. Nid oes gennyf hawl i gyhoeddi pethau sydd wedi ymddangos mewn cylchgronau ereill; cospid fi pe gwnawn. Boh. Ie, alaethus iawn. Y mae'n eithaf gwir fod canol y ddaear yn llawn tàn, yn eiriasboeth, yn llyn berwedig o fetéloedd tawdd. Y mae y crystyn am 7 canol tanllyd hwn yn deneu iawn mewn mannau, yn enwedig dan ynysoedd yr India Orllewinol. Cewch hanes adfyd ynys Martinique eto, gyda darluniau. D. Davies. Diolch. Anfonwch ambell hanesyn hefyd. D. 0. Joyps. Mwy priodol i Cymru, hwyrach, yw y gân ar "Fachlud Haul.