Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y PLANT. Aderyn yw'r creyr glas. Yr enw Saesneg arno yw heron. Nid gwneyd esgidiau yw ei "grefft," at nid oes un cysylltiad rhyngddo a chrydd. Yn hytrach, pysgotwr yw. Sian. Yr wyf yn credu y byddai mwy o falchder gyda dillad ychydig o amser yn ol nag sydd yn awr. Byddai esgidiau uchel, topiau cochion, yn gostus iawn. Olywais fy nhad yn adrodd am ddau bregethwr ar daith. Cwynai un beunydd mor ddrud oedd yr esgidiau gloew a choch oedd am ei draed a' i goesau. " Diolchwch," ebe ei gyfaill, "nad ydych yn neidr gahtroed." "Wil y Fron. Cefaiseich "bardd- oniaeth." Nid ydych llawn cymaint a Dewi Wyn ac Eben Fardd eto ; ond hwyrach nas gallasent wneyd yn well na chwi yn eich oed. Os byddwn ein dau byw ymhen y deng mlynedd, beth pe byddwn yn cadw y gân, ac yn ei hanfon i chwi i ofyn a gaf ei chyhoeddi pan fydd Cymru'r Plant a chwithau yn dod i'ch oed ? Mair Mon. Y mae Tywysog Cymru wedi rhoi lle i'r ddraig goch ar ei bais arfau. Ystyria rhai y genhinen yn flodeuyn cenhedlaethol Cymru, ereill genhinen Pedr, ereill flodau'r grug. Y mae cenhinen Pedr (daýbdil, creyr glas. - croeso'r gwanwyn," mae llawer o enwau arni) yn blodeuo ddygwyl Dewi. Y rhosyn yw blodyn Lloegr, y ddeilen dri-dalen (shamroclc) yw arwydd ddalen yr Iwerddon, yr ysgall wisga'r Ysgotyn, y lili yw blodyn Ffrainc. Myi?yr Blin. Dim digon eglur i blant, a rhy gyfriniol. Cerddorion. A fydd y cerddorion mor garedig ag anfon y tonau, nid i mi, ond i'r golygydd cerddorol, sef L. J. Iioberts, M.A., Tegfan, Eussell Road, Ehyl.