Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT V PLANT. yR wyf yn dymuno i chwi oll flwyddyn newydd dda. lechyd, dedwyddwch, gwybodaeth, duwioldeb,—hoff wn i chwi gael y rhain i gyd. Plant iach, a bochau cochion, yn medru rhedeg yn gyflym, yn byw yn yr awyr agored, gobeithio mai felly y byddwch. Plant da, ufudd. tyner,—gwn y gallwch fod yn rhai felly, os treiwch. Tka yr wyf yn ysgrifennu gwelaf y lleuad newydd yn taflu gwrid tlws ar gopa gẅyn eiraog y mynydd. Y mae'r olygfa fel y nefoedd,—mor dyner, mor bur. Nis gwn ond am un peth tlysach,— dyfodol plentyn bach. Ond i chwi fod ar eich goreu, a bod yn ufudd ac yn garedig, y mae gan Dduw waith mawr i chwi wneyd yn y man. A byddwch wrth eich bodd yn gwneyd hwnnw. Yk wyf am ddod atoch i'ch cartref bob mis, os caf. Dor a darluniau gyda mi,—darluniau Cymry bach yr Amerig, a gwledydd ereill, yn ogystal a'ch darluniau chwi. Dor a hanesion hefyd. Dywedaf hanes bacbgen fu am fìsoedd yn garcharor ymysg bwytawyr dynion. Dywedaf hanes mwnwyr yn y danchwa, a morwyr yn y dymhestl. Atehaf eich Uythyrau ar y ddalen hon, hyd eithaf fy ngallu. Dysgaf chwi i wneyd eich tasg. Ehof fy nghyngor i chwi, os gofynnwch ef. Ehop ddadleuon i chwi i'w chware, a darnau i'w darllenynddifpfyr, athonau, a darnau i'w hadrodd, i wneyd yr aelwyd a'r cyfarfod yn fwy difyr. Af a chwi am dro i wledydd pell,— i glywed rhu y llew ac ysgrech yr aderyn rhaib, i ddilyn ol traed yr arth a'r blaidd, i weled y morfarch a'r crocodeil yn codi o'r afon. Ond gofalaf am danoch chwi. Os cawn fyw i weld diwedd blwyddyn arall, cewch ysgrifennu ataf i^ddweyd a füm ÿîi ün à'm häddëẅH." Chwi yw gobaith Cymru, ac"hi fynnwn er dim golli fy ngolwg ainoch.